Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/102

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mewn gweddi. Robert Jones y gof oedd ddyn o synwyr cryf. Yn atyniadol iawn i blant. Ceid gweled yr ysmotiau gwynion ar ei wyneb wedi i'r plant fod yn ei gusanu. Pan fyddai eisieu gwared o'r plant, curai ei einion â'i ffedog ledr, a diangent yn y fan. Gwelid hwy drachefn ymhen rhyw awr o amser yn ysbio oddeutu'r drws, a oedd croesaw iddynt ddod i mewn ai peidio? Cafodd dro amlwg yn '59. Meddwi cyn hynny. Y chwant yn dod yn gryf drosto ar brydiau. "'Rwyf wedi penderfynnu na ddaw diferyn fyth dros fy ngwefusau," ebe fe. Bu farw ymhen saith mlynedd ar ol y diwygiad â'i goron ar ei ben.

Bu yma rai gwragedd, hefyd, go neilltuol heblaw Ann Roberts. Hen wragedd oedd rhai ohonynt wedi meistroli Gurnall, ebe Mr. John Williams. Mam Owen Evans Mur Mawr—dyna un. Eben Fardd a hoffai ei chymdeithas. "Yr hen tybed yma sy'n fy mhoeni i," ebe hi: sef ydoedd hynny, nid gwadu pendant, ond tuedd anghrediniol y meddwl. Unwaith yr oedd hi yn aros yn nhŷ capel Gosen ar adeg Cyfarfod Misol. Yr oedd William Hughes Edeyrn yn pregethu o flaen James Donne. Gwr meddylgar fel y gwyddys oedd William Hughes; a'r tro hwn fe gafodd oedfa a llewyrch arni. Wedi myned i'r tŷ, ebe'r hen wraig wrtho, "Wel, mi godaist ar flaenau dy draed rhag i'r donn yna fyned dros dy ben." Sian Jones, gwraig Hugh Jones, a fedrai nyddu straeon gyda'r rhwyddineb mwyaf. Pan geid nad oeddynt ddim yn llythrennol wir, dim ond yn ffigyrol wir, tynnai hynny beth oddiwrth ei dylanwad gyda gwŷr y llythyren. Yr oedd hi'n llawn afiaeth. Gorfoleddodd lawer gwaith law-yn-llaw â merched eraill. Pan yn ddeg a phedwar ugain oed hi ddanghosai ar dro y medrai ddawnsio cystal ag yn y dyddiau gynt. Heb sôn am eraill, megys Catrin William, gweddw Griffith Williams Bwlan, a Mary Jones, un hynod iawn yn ei ffordd oedd Siani Ellis, mam Robert Griffith, blaenor ym Moriah. Un o'r Capel Uchaf oedd hi, a llawn mwy o ddelw'r Capel Uchaf arni. Sian yn myned at Evan Thomas ar ddydd diolchgarwch i ofyn iddo pa faint a ddylai hi roi yn y casgl. "Faint sy gynochi?" gofynnai yntau. "Hanner coron." "Oes peidio bod arnochi am lo?" "Dim ond am gant, ac mi gaf dalu pan leiciai." " "Taechi yn rhoi swllt, mi roech fwy na neb." Siani Ellis yn rhoi'r hanner coron i gyd. Pan gyfarfyddodd Evan Thomas â hi drachefn, mi ofynnodd iddi sut yr oedd hi wedi gwneud. "Mi rhois o i gyd," ebe hithau. "Ac arnoch i am gant o lo ?" "Ie," ebe hithau,