Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/103

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mi ddaw o rywle." Cyn nos yr oedd hi wedi derbyn saith swllt. Ar y dydd diolchgarwch hwnnw, fe alwodd nai iddi gyda hi na welodd mono erioed o'r blaen. A thranoeth hi dderbyniodd ychwaneg drachefn. Yr oedd yn gref o gorff. Hi elai, wedi troi ei phedwar ugain oed, gyda rhaff a chryman, a chyrchai adref ar ei chefn faich o eithin digon trwm i ddyn. Danghosid gofal mawr am dani, ac nid elai diwrnod heibio heb iddi gael digonnedd; ond elai aml fore heibio heb foreubryd; ac ar y boreuau hynny fe'i clywid hi yn moli a gorfoleddu. Ni feddai gryfder meddwl neilltuol: ei neilltuolrwydd oedd ei chrefyddolder. Ei myfyrdod a lwyr-lyncwyd ym mhethau Tŷ Dduw. Ni feddai ddeunydd ymddiddan am ddim arall, pwy bynnag a alwai gyda hi, hen neu ieuainc. Ebe Mr. John Williams am dani: "Hen wraig neilltuol oedd Sian Ellis: mawr ei ffydd a'i chariad a'i llawenydd. Mynych y byddai hon pan yn nyddu gyda'r droell, a'r Beibl agored ar y ford, yn taro ei llygad ar adnod, ac yn myfyrio arni nes yr enynnai tân ac y llamai mewn gorfoledd, heb fod neb yn y tŷ ond hi ei hunan." Ebe Mr. John Jones Llanfaglan: "'Roedd Siani Ellis yn byrlymu fel ffynnon 'roedd hi'n byw yn y pethau. Yn ei thŷ yn nyddu efo'i throell, canu a gweddïo y byddai hi; yn y capel yr oedd fel un ar dorri. Ar ryw adeg o orfoledd neilltuol, hi a apeliai at y bardd, Dowch Eben, camolwch o! 'Rydw'i yn methu a gwneud digon.' Ateb Eben oedd crio." Ar hyd y blynyddoedd meithion ni feddylid am dani ond fel un ag yr oedd ei hymddiffynfa yng nghestyll y creigiau, a bod ei bara a'i dwfr yn sicr. "Angel yr Arglwydd a gastella o amgylch y rhai a'i hofnant ef ac a'u gwared hwynt."

Adroddiad yr ymwelwyr â'r ysgol Sul yn 1885: "Dysgir y plant mewn rhan o'r llyfr bach a'r cerdyn. Egwyddorir y plant yn y Rhodd Mam a'r Rhodd Tad yn effeithiol. Ni arferir y wersdaflen eto. Bechgyn rhy ieuainc yn gofyn cwestiynau ar eu hadnod, a hynny yn amhriodol. Hanesiaeth a daearyddiaeth ysgrythyrol yn ddiffygiol. Eisieu rhyw gynllun i greu mwy o fywiogrwydd ac ynni drwy'r holl ysgol. William Griffith Penygroes, E. Williams Llanllyfni, John Roberts Llanllyfni."

Rhif yr aelodau yn 1900, 108.