Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/104

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

LLANLLYFNI, LLANDWROG, A LLANWNDA.

ARWEINIOL.

MAE plwyf Llanllyfni yn gorwedd rhwng dau drum o fynyddoedd yng nghantref Uwchgwyrfai, saith milltir i'r de-orllewin o dref Caernarvon. Fe ddwg yr enw oddiwrth yr afon Llyfnwy, sy'n codi yn llynnoedd Nantlle, yn rhan uchaf y plwyf. Mae terfyn pen dwyreiniol y plwyf yn agorfa ramantus Drws-y-coed, a chyrraedd o bobtu'r afon i'w derfyn gorllewinol yn agos i'r brif-ffordd rhwng Clynnog a Chaernarvon. Y terfyn gogleddol rhwng Penygroes a'r Groeslon yn Ffrwd-garreg-wen; y terfyn deheuol, afon Bryn-y- gro, rhyngddo a phlwyf Clynnog. Y boblogaeth yn 1841, 1571; yn 1871 yn 4013; yn 1901 yn 5762. Y mae'r capeli yma yn y plwyf hwn: Salem (Llanllyfni), Talysarn, Nebo, Bethel (Penygroes), Hyfrydle, Tanrallt, Saron, ynghydag ysgoldy Penchwarel. Llandwrog sydd blwyf yng nghantref Uwchgwyrfai ar fin beisfor Caernarvon, ar Sarn Alun, a phum milltir i'r de-orllewin o dref Caernarvon. Rhennir ef yn ddwy ran, yr uchaf a'r isaf. Cynnwys weithfeydd copr Drws-y-coed a chwareli llechi Nantlle a'r Cilgwyn. Y rhan fwyaf o'r plwyf yn stâd Glynllifon. Y boblogaeth yn 1841, 1923; yn 1861, 2825; yn 1871, 3425; yn 1901, 4247. Cynnwys y capeli yma: Bryn'rodyn, Bwlan, Carmel, Cesarea, Baladeulyn, Brynrhos, ynghydag ysgoldai y Bryn a'r Morfa.

Llanwnda (Llan Wyndaf), plwyf yng nghantref Uwchgwyrfai, ar y ffordd fawr o Gaernarvon i Bwllheli. Y boblogaeth yn 1841, 1264; yn 1871, 1922; yn 1901, 2107. Cynnwys y capeli yma : Rhostryfan, Rhosgadfan, Glanrhyd, ynghydag ysgoldy Libanus.

Poblogaeth plwyf Llanllyfni a rhan uchaf Llandwrog yn bennaf yn chwarelwyr; Llanwnda yn gymysg chwarelwyr ac amaethwyr ; rhan isaf Llandwrog yn amaethwyr. Y plwyfi hyn cydrhyngddynt yn cynrychioli pobl Arfon yn o deg. Nid yw tôn y chwarel mor amlwg yn unlle yma ag yn Bethesda a Llanberis, a'r cylch. Yn Nebo, ar fynydd Llanllyfni, y gwelir effaith unigedd y llethrau mynyddig, a lle mae plwyf Llandwrog yn terfynu ar y môr fe welir pobl led debyg i bobl pentref Clynnog. Y chwarelwr ar y