Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/105

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cyfan sy'n teyrnasu, sef y chwarelwr gwledig yn hytrach, a rhyw gymaint mwy, at ei gilydd, o naws natur arno, nag sydd ar chwarelwr y cylchoedd eraill a enwyd, mewn blynyddoedd diweddar.

Mae pobl ardal Nebo, fel pobl ardal y Capel Uchaf, yn prysur newid, a'r hen dylwyth cynhenid mewn gwirionedd wedi colli. Eithr fe gafwyd un enghraifft ohonynt, a ddaeth yn adnabyddus i Gymru benbwygilydd, sef Robert Jones, gweinidog y Bedyddwyr. Magwyd ef gyda'r Methodistiaid hyd nes ydoedd yn ugain mlwydd oed. Er ddarfod iddo fyned yn Fedyddiwr gorselog, eto o ran ei nodweddion arbennig fe safai ar ei ben ei hun yn hollol yn yr enwad, a pherthynai yn gwbl i grefyddwyr y rhanbarth gwledig hwn. Gwelid delw hen bobl mynydd Llanllyfni yn amlwg arno yn symlrwydd unplyg ei nodweddiad, yn llymder cyfyng ei argyhoeddiadau, yng ngonestrwydd didwyll ei amcanion a'i rybuddion, yng ngwres ei brofiad crefyddol, yn ffrydlif ei ddawn, yng ngerwinder anghoethedig ei ymadroddion a'i ddull. Hen grefyddwyr Nebo a'r Capel Uchaf, Robert Jones, heb droi yn Fedyddiwr, oeddynt, heb ddarllen cymaint ag ef, ac heb fod, gyda rhai eithriadau, o gynneddf gyn gryfed, ac am hynny efallai yn cael eu cludo yn fwy amlwg gan awelon teimlad ar hwyliau uchel.

Fe geir amrywiaeth hynod mewn hinsawdd a golygfa, yn yr olaf yn fwyaf neilltuol, o fewn cylch mor fychan. Egyr yr olygfa o Dalsarn tua'r Baladeulyn yn raddol o flaen y llygaid mewn swyn hudol a chyfaredd a chyfrinedd na welir mo'r cyffelyb ond anfynych yn ddiau; ar fynydd Llanllyfni fe geir gwlad lom a gwylltedd unig; o Lanwnda a rhannau o Landwrog mae bannau'r mynyddoedd ar un tu, ac yn ymestyn i'r pellter ar y tu arall y mae Môn a'r môr. Nid anhawdd dychmygu fod arlliw yr hin a'r olygfa yn ganfyddadwy ar nodwedd y bobl, ac ar ffurf eu cymeriad crefyddol. Y mae lliaws o olion henafol yn yr ardaloedd hyn, ac adroddir nifer o chwedlau y tylwyth teg a straeon rhamantus, rhai ohonynt ar ffurf hanesyddol. Y chwedlau hynny oedd yn gyfran helaeth o ymborth ysbrydol y bobl o'u mebyd am lawer oes. Bu yn yr ardaloedd hyn gymeriadau nodedig a rhamantus. Un o'r cyfryw oedd Angharad James, o'r Gelliffrydau, yr adroddir ei hanes yng Nghofiant John Jones. Yr oedd ei thaid a'i nain hi hefyd yn bobl go neilltuol yn eu ffordd. Yr oedd John Jones yn hanu o'r un teulu ag Angharad. Gwraig hynod oedd Martha'r Mynydd. Rhydd Robert Jones yn ei Ddrych yr Amseroedd adroddiad o'i