chastiau. Fe ddeuai lliaws i'w thŷ i wrando ar ryw "anweledigion," fel y galwai Martha hwy, yn pregethu. Fe fyddai'r anweledigion yn amlygu eu hunain yn nhŷ Martha wedi eu gwisgo mewn gwisg wen laes, y naill neu'r llall ohonynt ar eu tro, Mr. Ingram y galwai hi y naill, a Miss Ingram y llall. Ni byddai Martha ei hun yn y golwg, os nad hi ei hunan oedd y naill a'r llall o'r ddau anweledigion hynny, yr hyn o'r diwedd a ddaeth yn lled amlwg. Rhyfedd y sôn, yn ol Owen Jones yn ei Gymru, fe ddaeth Martha'r Mynydd yn aelod o Salem Llanllyfni ymhen amser, a chyfaddefodd ei thwyll. Nid yw'r hanes yn profi fod y bobl mor ddiwybod ag yr honwyd, gan fod rhai tebyg i Martha'r Mynydd yn ein dyddiau ni yn hudo gwyddonwyr enwog weithiau a gwŷr o ddysg. Er hynny, fe deifl yr hanes oleu ar gyflwr y bobl.
Bu'r llwyddiant amlwg ynglyn â gweithfeydd copr Drws-y-coed a'r chwareli llechi yn y gymdogaeth oddeutu 150 o flynyddoedd yn ol yn foddion i ddwyn llawer o bobl o ardaloedd eraill i'r lle, a lliaws o'r rhai hynny yn ddynion go anwar a difoes. Y pryd hwnnw yr oedd y Telyrnia yn ei rwysg, sef tafarn a gedwid yn agos i dollffordd y Gelli, gan William ab Rhisiart a'i wraig Marged uch Ifan. Merch nodedig ydoedd Marged, yn gallu gwneud telyn a chrwth a'u chware, a'i chwsmeriaid yn dawnsio o'i hamgylch wrth ddrws y dafarn ar brynhawn hafaidd. Hon a fu yn ol hynny ym Mhenllyn Llanberis yn chware ei champau, fel yr adroddir gan Pennant a Bayley Williams.
Poenid ambell i Lot y dyddiau hynny gan ymddygiad ofer lliaws, yn enwedig ar y Suliau. Hela gyda chŵn, crynhoi ynghyd i adrodd chwedlau, ymladd,—dyna arfer llaweroedd ar y Suliau, nes i gynnydd crefydd yn y wlad a chynnydd yr Ysgol Sul eu gwarthnodi. Coffeid yr ymgesglid i Glwt-y-foty yn ardal Bryn'rodyn i chware'r bêl droed ar y Sul. Yr oedd y chware hwnnw yn gyffredinol iawn drwy'r wlad ar Sul, gŵyl, a gwaith yn nhymor cychwyniad Methodistiaeth. Chwareuid yn y fynwent yn gyffredin, ar ol gwasanaeth y bore yn y llan, os byddai'r tywydd yn caniatau.
Yr oedd ysgolion dyddiol yn dechre lliosogi yn y wlad, er yn brin, oddeutu'r adeg yr oedd eglwysi hynaf y Methodistiaid yn cychwyn. Yr oedd John Roberts wedi agor ysgol yn Llanllyfni yn lled fuan ar ol cychwyn yr eglwys yno. Yr oedd John Parry (Caer) yn myned i un o ysgolion Madam Bevan ym Mrynrodyn yn