Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/108

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gofaler am wneud hynny gyda doethineb a phwyll. (5) Fod i'r holl athrawon sydd yn dysgu plant amcanu at fwy o amrywiaeth. Gwna hynny yr addysg yn fwy difyrrus ac effeithiol. Yr un modd hefyd yr athrawon sydd yn dysgu rhai yn dechre yn eu Testamentau. Wedi darllen, neu wrth ddarllen y bennod, gofyner ychydig arni, fel y caffer gwybod a ydys yn deall y cynwysiad. Hefyd, holer o'r Rhodd Mam, Rhodd Tad, yr Hyfforddwr, neu Holwyddoreg Hughes Nerpwl ar yr hanesiaeth ysgrythyrol. Waith arall, cau y llyfrau, a rhoi gwers mewn sillebiaeth. Caiff yr athrawon drwy hyn fantais i wybod a ddarfu'r plant ddysgu'r llythrennau yn gywir cyn eu symud o'r Egwyddor. (6) Fod i'r athrawon alw sylw eu dosbarthiadau at berthynas y gair â hwy, ac hefyd ymdrechu eu cael i feddu dirnadaeth fwy eglur o athrawiaethau crefydd, ac i ochel pob ysgafnder a hyfdra cnawdol uwchben gair Duw. (7) Fod yr ysgol athrawon, yr hon, ni hyderwn, sydd yn cael ei chynnal ym mhob cymdogaeth, yn cael ei threulio i egluro mwy ar bynciau sylfaenol crefydd. Ni all yr athrawon ddangos y pynciau hyn yn eu harbenigrwydd a'u pwys priodol i'w dosbarthiadau, oni byddant wedi eu hyfforddi yn dda ynddynt eu hunain." Eiddo Eben Fardd yw'r llawysgrifen yn yr adroddiad uchod, debygir.

Ynglyn â'r ysgolion y mae dosbarth Clynnog ar wahan i ddos- barth Uwchgwyrfai. Rhoir yma adroddiad ymwelwyr y Can- mlwyddiant (1885) â dosbarth Clynnog: "Nifer yr ysgolion (yn cynnwys un gangen-ysgol), deg, sef Capel Uchaf, Seion, Brynaerau, Ebenezer, Saron, Bethel, Nebo, Penychwarel (cangen), Llanllyfni a Bwlan. Ymgynullodd y nifer fwyaf o'r ysgolion yn dra phrydlon, yn neilltuol felly Capel Uchaf, Ebenezer, a Phenychwarel. Gallwn nodi Ebenezer a Saron fel y ddwy ysgol y cedwir y cyfrifon manylaf ynddynt. Cedwir ganddynt restr o holl aelodau yr ysgol; cyfrif o bresenoldeb pob aelod ar wahân; cyfrif o lafur pob aelod ar wahân. Ymherthynas â dysgu allan, yn ysgolion Brynaerau a Bwlan fe nodir y maes i ddysgu allan ohono, ac el yr ysgrifennydd. neu arall drwy'r dosbarthiadau i wrando'r adroddiadau. Mae angen am fwy o unffurfiaeth yn y drefn o ddwyn yr ysgolion ymlaen, sef amser casglu llafur, amser canu, &c. Lle ceir ystafelloedd ar wahân i'r plant, sef yn Nebo, Llanllyfni, Bethel a Bwlan, daw'r plant i fedru darllen yn gynt. Y diffyg mawr ydyw diffyg cynllun gyda'r wers-ddarllen, a dyma'r achos fod yr ysgolion yn gyffredinol heb ddilyn taflen y maes llafur. Rhy fychan o sylw a delir i am-