Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/109

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gylchiadau yr ysgolion gan yr eglwysi yn gyffredinol. E. Williams. "Ymwelwyr Dosbarth Clynnog, Edmund Williams a John Roberts Llanllyfni, a William Griffith Penygroes. Amser, Medi 27 hyd Tachwedd 1, 1885. O'r deg ysgol, y liosocaf ydyw Bethel, yna Salem, yna Bwlan, wedi hynny Nebo, yna Brynaerau a Chapel Uchaf, wedi hynny Ebenezer, yna Saron, Seion a Phenychwarel. Rhagorai Capel Uchaf, Ebenezer a Phenychwarel mewn prydlondeb. Edmygem yn fawr ysgol y Capel Uchaf yn hyn mewn ardal mor wasgarog. Bendith fawr fyddai cael diwygiad mewn prydlondeb drwy'r dosbarth. Y canu yn fendigedig yn Llanllyfni ar ddiwedd yr ysgol. Cenid un o donau Sankey yn swynol ac effeithiol dros ben. Adrodd y Deg Gorchymyn a holi'r Hyfforddwr yn y Bwlan yn dda ac effeithiol. Teimlem ein hunain yn cael ein cario yn ol i gyfnod y tadau, pan oedd yr holi yn cyfuno y ddwy elfen, yr adeiladol a'r dyddorol. Arfer dda a geir yn Ebenezer, sef y brodyr ar y naill Sul a'r chwiorydd ar y llall, yn adrodd testyn pregeth y bore. Nifer o ddosbarthiadau ym mhob ysgol heb wneud dim ond darllen yn unig; eraill yn darllen ychydig ac esbonio llawer, heb esgeuluso dadleu brwd yn aml; eraill yn darllen, esbonio, a chymwyso; eraill yn darllen a chymwyso heb esbonio nemor. Nid yw tynnu gwersi ac addysgiadau a chymwyso'r gwirionedd yn cael y sylw priodol yn y rhan fwyaf o'r dosbarthiadau. Ychydig mewn cymhariaeth yn gwneud defnydd o dafleni gwersi y Cyfundeb. Ychydig o blant mewn cymhariaeth mewn rhai ysgolion. Yn eraill y chwiorydd mewn lleiafrif mawr, yn neilltuol felly yn Nebo. Ai tybed fod angenrheidrwydd am gymaint o absenoli o'r ysgol? Mewn 13 dosbarth mewn un ysgol yr oedd 61 o'r aelodau yn bresennol a 25 yn absennol. Tri dosbarth a geid yn gyflawn o'r tri arddeg. Ai tybed fod yn rhaid i'r bedwaredd ran o'r ysgol fod yn absennol? Yr oeddym yn tybio fod gan yr athrawon le i ystyried fod ar eu llaw hwy lawer i'w wneud tuag at gadw y dosbarth ynghyd. Ofnem fod diffyg llafur rhai athrawon yn difwyno'r dosbarth. Eraill yn treulio'r amser gyda phethau anymarferol, ac uwchlaw cyrhaeddiadau yr aelodau, megys holi daearyddiaeth mewn dosbarth gwragedd, neu holi am rannau ymadrodd a dadansoddi brawddegau, gan ymfoddloni ar hynny yn unig. Eraill â gormod tuedd ynddynt i holi ac ateb y cyfan eu hunain, a phregethu cryn lawer at hynny. Mewn ychydig o enghreifftiau yn unig y cawsom le i ofni fod yr athraw heb fod i fyny â'r hyn a olygir wrth gymhwyster i'w ddosbarth. Gwasan-