Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/110

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

aethed yr enghraifft a ganlyn: darllenai dosbarth yn Actau ii. 17, 'A bydd yn y dyddiau diweddaf, medd Duw, y tywalltaf o'm Hysbryd ar bob cnawd.' Cwestiwn,—Pa beth o olygid wrth y dyddiau diweddaf? Gwahanol atebion: diwedd yr hen oruchwyliaeth, yr oruchwyliaeth newydd, dinystr Jerusalem, diwedd y byd. Cadarnhau yr ateb mai diwedd y byd oedd i'w ddeall! Angen mawr yr ysgol ydyw athrawon cymwys ac ymroddedig. Awgrymem y priodoldeb o gael dosbarth athrawon, neu ddosbarthiadau yn yr ysgol yn ol eu gwahanol safonau, i fyned drwy'r gwersi, fel y byddo'r oll o'r ysgol yn ymlwybro yn yr un cyfeiriad, ac fel y gallai'r holi a'r ateb yn y diwedd fod yn rhyw grynodeb o waith yr ysgol. William Griffith."

Eto, adroddiad ymwelwyr Dosbarth Uwchgwyrfai: "Y dosbarthiadau ieuengaf. Y dosbarth isaf:—Ystyriwn y dylai y dosbarth hwn gael bwrdd â'r wyddor arno wedi ei osod i fyny, fel y gallai pob un ei weled heb symud o'i le. Pe bae i'r athraw gymeryd ond rhyw chwech neu saith llythyren bob Sul, a chyfyngu sylw y plant at hynny, byddai eu cynnydd yn fwy amlwg. Yr ail ddosbarth: Credwn mai cardiau neu fwrdd ddylid ddefnyddio gyda'r dosbarth hwn hefyd. Anogem i'r wers gael ei chyfyngu i ychydig eiriau, megys Un Duw sydd. Y trydydd dosbarth:— Dylai llyfrau y dosbarth hwn fod wedi eu rhwymo lawer yn well. Dylid cadw golwg ar addysgu yn drwyadl. Sylwadau cyffredinol:— Pethau yn peri gwastraff ar amser yr ysgol: gwaith rhai athrawon yn gofyn i bob aelod o'r dosbarth, y naill ar ol y llall, gwestiwn na allai fod gwahaniaeth barn arno, ac na ellid mo'i ateb ond mewn geiriau cyffelyb. Mewn dosbarth o rai mewn oed, fe ofynnwyd i bob un a oedd adnod neilltuol wedi ei darllen yn gywir o ran sain y geiriau. Rhai athrawon yn dibynnu gormod ar eu gwybodaeth gyffredinol, heb baratoi ar gyfer y wers. Mae'n bosibl i ddosbarth wastraffu llawer o amser yn ymbalfalu gyda chwestiwn amwys. Rhai athrawon yn ymddiried y gwaith o ofyn cwestiynau i'r disgyblion yn unig, a'r rhai hynny weithiau yn anaddfed eu barn. Anogem fod trefn a lleoliad y dosbarthiadau yn cael sylw, gan amcanu eu cadw mewn pellter priodol oddiwrth eu gilydd. Dymunol fyddai i'r athrawon sefyll gan wynebu'r dosbarth. Llawenheid ni yn ddirfawr yn yr olwg addawol, lafurfawr ac ymroddgar a gaem ar yr ysgol. O. J. Roberts Cesarea, William Thomas Hyfrydle, T. Lloyd Jones Talsarn, Owen Jones Talsarn, H. R. Owen Brynrhos, John Thomas Horeb."