oedd y pedwar William, sef rhif cyfrin y nef. Nid mewn lliosowgrwydd y mae'r dirgelwch, ond mewn perthynas. Yr oedd y pedwar o un galon yng ngwaith yr Arglwydd. Pedwar oeddynt ar eu cychwyniad o'r Berthddu, ond pump ar eu sefydliad yn y Buarthau, gan i ferch ymuno â hwy, gan wneud y rhif yn bump, sef y naill hanner i rif deddf ac awdurdod.
Gwelir ddarfod i bump o eglwysi ymganghennu o Frynrodyn a phedair o Dalsarn, a phedair, yn uniongyrchol, o Lanllyfni, un o Rostryfan ac un o Fethel. Fe ddywedodd William Dafydd, yn y dull digyffro a oedd yn arwyddo afiaeth ysbryd, yn y seiat nesaf wedi i'r haid gyntaf ddisgyn ar Frynrodyn, nad oedd hynny ond dechre, ac y gwelid llu yn dod allan o'r hen gwch yn y man. Ac felly y cyflawnodd yr Arglwydd. Gwirir drwy'r oesau bennill a fu'n cael ei briodoli i Morgan Llwyd, pa un ai ar sail digonol ai peidio:
'Dyw hi eto ond dechre gwawrio,
Cwyd yr haul yn uwch i'r lan;
Teyrnas Šatan aiff yn chwilfriw,
Iesu'n frenin ym mhob man.