Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/113

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

SALEM, LLANLLYFNI.[1]

TRI lle a gysegrwyd i enw John Jones,-sef yr un John Jones yn arbennig o'r holl dylwyth lliosog a fu'n dwyn yr enw,-nid amgen Dolwyddelen, Llanllyfni a Thalsarn. Cysegrwyd eglwys plwyf Llanllyfni i Redyw Sant. Ni wyr nemor neb am hynny, ond gŵyr lliaws mawr am John Jones Dolyddelen a John Jones Llanllyfni, a lliaws mwy fyth am John Jones Talsarn, canys yno ac nid yma yr oedd efe yn aelod. Saif y pentref ar yr ochr ddeheuol i'r afon ar y ffordd fawr o Gaernarvon i Dremadoc. Fe dybir fod eglwys y plwyf wedi ei helaethu i'r ffurf bresennol yn 1032. Yn 1784 y pregethwyd yn y pentref yn gyntaf, hyd y gwyddys, gan y Bedyddwyr, a dwy flynedd yn ddiweddarach y bedyddiwyd yma am y tro cyntaf. (Hanes y Bedyddwyr, Spinther James, III. 348.) Fe ddywed Michael Roberts fod y Morafiaid yn y lle o flaen y Bedyddwyr. Yn 1870 y cychwynnodd yr Anibynwyr, yn hen gapel y Sandemaniaid, a oedd wedi myned yn ddiwasanaeth. (Hanes yr Eglwysi Anibynnol, III. 232). Fe ddywed Michael Roberts, pa fodd bynnag, y bu ganddynt bregethu yma yn 1799, a'r Wesleyaid yn 1802.

Y cyntaf erioed, o blwyf Llanllyfni, a fu'n gwrando ar y Methodistiaid, ebe Michael Roberts, ydoedd William Williams y Buarthau. Yr oedd y William Williams hwnnw yn ewythr o frawd ei fam i Michael Roberts. Ar nos Sul, yn niwedd y flwyddyn 1758, yr aeth efe i wrando pregethwr dieithr ô'r Deheudir yn y Berth-ddu bach ym mhlwyf Clynnog. Yr oedd Nanney, periglor Clynnog, ebe Michael Roberts, yno o dan y ffenestr yn gwrando ar yr un bregeth. Fe gafodd William Williams fendith o dan y bregeth, ac o hynny allan fe ymroes i wrando ar y Methodistiaid. A mynych, ebe ei nai, y cyrchodd efe i Leyn, i Glynnog, i Bryn-y-gadfa, ac i'r Waenfawr i'r amcan hwnnw. Y Yn fuan ymunodd William Dafydd, câr agos i

  1. Ysgrif W. W. Jones (Cyrus), yn dwyn yr hanes i lawr i 1879. Erthyglau gan Mr. R. Jones (Asiedydd), yn y Drysorfa, 1885. Ysgrif ar yr Ysgol Sul gan Asiedydd, yn dwyn yr hanes i lawr i 1882. Byrr-gofiant o Ffyddloniaid eglwys Salem (1856-76), gan Asiedydd, 1877. Ysgrif y Parch. W. Williams ar eglwys Talsarn, yn olrhain hanes y canghennau-ysgol. Cofiannau Richard Jones, Robert Roberts, Henry Williams (llawysgrif), gan Mr. O. LI. Owain. Cofiant Michael Roberts, gan John Jones, yn cynnwys Cofiant John Roberts, Llangwm, gan Michael Roberts, 1883. Ysgrif D. Llwyd yn y Drysorfa, 1831 (t. 364). Nodiadau y Parchn. R. Thomas, Talsarnau, a G. Ceidiog Roberts.