Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/114

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

William Williams, i fyned gydag ef i wrando i'r Berth-ddu. Ac ymhen ysbaid yr oedd yno bedwar William, neu "bedwar Wil," fel y gelwid hwy, yn myned o blwyf Llanllyfni i wrando'r Methodistiaid, sef y dywededig William Williams a William Dafydd, a chyda hwy William Sion a William Roberts. Ymhen ysbaid drachefn, ychwanegwyd atynt Ann, chwaer William Williams, priod ar ol hynny i John Roberts, a mam Michael Roberts, sef y ferch gyntaf o Lanllyfni, mae'n debyg, a fu erioed yn gwrando ar y Methodistiaid. Ymunodd y pedwar gwr â'r gymdeithas eglwysig yn y Berth-ddu.

Rywbryd yn ystod 1763-4 dyma hwy yn penderfynnu cychwyn achos yn Llanllyfni ei hunan. Yn ymyl y Buarthau y dechreuwyd pregethu. Ni chaniatae gwr y tŷ, ac yntau yn berchennog, iddynt ddod i mewn; ac ni feiddiai yr un ohonynt hwythau dderbyn pregethu i'w tai, rhag eu troi allan gan y perchenogion. Weithiau fe bregethid ar y ffordd, bryd arall mewn cwrr cae, bryd arall mewn hen dŷ gwâg yn agos i'r Buarthau. Yr awdurdod am y pethau hyn, fel am liaws o bethau yn hanes cyntaf yr achos yn Llanllyfni, yw Dafydd Llwyd yn Nhrysorfa 1831 (t. 364). Brawd Richard Llwyd Bethesda ydoedd ef, a mab Daniel Williams, ysgrifennydd yr eglwys am lawer blwyddyn, ac ŵyr William Williams.

Yn y cyflwr yma y bu pethau hyd y flwyddyn 1766, pryd yr ymbriododd William Williams â Catherine Pritchard o blwyf Clynnog, ac yr aeth y ddeuddyn i fyw i'r Buarthau. Yn y modd yma yr agorwyd drws i'r Methodistiaid yn Llanllyfni, gan fod perchennog y Buarthau erbyn hynny yn foddlon i'r pregethu. Bu pregethu yn ddilynol ar dir y Buarthau am 50 mlynedd.

Dyma'r pryd y cychwynnwyd cymdeithas eglwysig yn Llanllyfni, sef yn 1766, y mae'n debyg. Ymunodd Ann, chwaer William Williams, y noswaith gyntaf, canys nid oedd hi yn aelod o'r blaen. Yr oedd Catherine Pritchard yn aelod yn y Berth-ddu o'r blaen. Y pedwar William a'r ddwy ferch yma oedd yr aelodau cyntaf. Er fod y nifer yn fychan, yr oedd yr anwyldeb rhyngddynt yn fawr, a bu llawer o sôn rhagllaw am undeb ac anwyldeb y gymdeithas eglwysig honno.

Ac nid hir y buont chwaith heb gynnydd yn y rhif. Yn lled fuan ymunodd tad a mam John Roberts a Robert Roberts â hwy.