Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/117

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn Llanllyfni. Hon oedd yr ail Gymdeithasfa a gynhaliwyd yma, a'r olaf. Am 10 ar y gloch fe bregethwyd gan Dafydd Williams Morganwg a Dafydd Jones Llangana. Am 2, gan William Lewis Môn a Dafydd Morris. Dywed Michael Roberts am y cyntaf, ei fod yn pregethu yn rymus, ac y clywid ei lais am filltir o gylch. A dywed ddarfod i Dafydd Morris ddechre yn bwyllog, ac ymhen hanner awr fod pawb oedd yno naill ai yn wylo neu yn gweiddi. Yr oedd John Owen yr Henbant bach yno yn blentyn yn llaw ei dad, a chof ganddo am ryw gais a fu yno i aflonyddu drwy guro padelli pres. Y Gymdeithasfa gyntaf a ddywed ef, yn y llawysgrif a adawodd ar ei ol, mewn camgymeriad am yr olaf. Efe a ddywed fod y cynulliadau yn lliosog, a bod llawer yno o Leyn ac Eifionydd. Fe ymddengys y dodwyd y ceffylau yn yr un cae; ac "ni welwyd gymaint o geffylau yn yr un cae erioed "ebe John Owen. Cyfran yr eglwys am un chwarter y flwyddyn hon at y casgl dimai oedd un swllt arddeg, yr hyn a ddengys mai 22 oedd rhif yr aelodau.

Y casgl at Gymdeithas Genhadol Llundain yn 1785 yn £8 1s. 6c.

Fe ddywed Dafydd Llwyd y cafwyd amryw ddiwygiadau yn Llanllyfni, o'r cyntaf, yn lled fuan ar ol adeiladu'r capel, hyd yr un yn 1793, pryd y profwyd ymweliad grymus oddiwrth yr Arglwydd, ac yr ychwanegwyd llawer at yr eglwys, rhai ohonynt yn aros yn 1831.

Rhoir hanesyn ym Methodistiaeth Cymru am ymddygiad Owen Morris tuag at Meyrick y periglor. Ar ddydd ympryd elid i'r capel am naw y bore, ac yna i'r llan, ac yna i'r capel y prynhawn. Ar ddiwrnod ympryd neilltuol, ar ddiwedd y gwasanaeth arferol yn y bore yn y llan, mynegodd y periglor ei fwriad i fyned ymlaen gyda gwasanaeth y gosper. Deallwyd ar unwaith mai ystryw oedd hyn i ddrysu cyfarfod y prynhawn yn y capel, drwy daflu moddion y llan yn ddigon pell i'w gwneud yn anhawdd myned i'r capel. Dan y syniad hwn, wele Owen Morris yn cymeryd ei het ac yn myned allan, a dilynwyd ef yn ddioed gan yr holl gynulleidfa. Anfonwyd gwŷs i Owen Morris drannoeth i ymddangos o flaen y person. Dwedid wrtho fod ei ymddygiad yn gyfryw ag i alw am ddirwy drom, os nad ysgymundod, a bod yn rhaid gweinyddu'r gosp, oni syrthiai efe ar ei liniau i ofyn am faddeuant.

Atebodd Owen Morris yn ddigryn mai i Dduw y gofynnai efe am