Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/118

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

faddeuant ar ei liniau, ac nad oedd yn ei fryd ef wneuthur hynny i'r periglor; ac yn ychwaneg, y gwnelai'r cyffelyb eto, os digwyddai'r cyffelyb amgylchiad. Gan nad ellid mo'i ddychrynu ef, gadawyd llonydd i Owen Morris.

Yn 1789 aeth tua 15 o'r aelodau i sefydlu eglwys Brynrodyn. Dywed Cyrus ar ol Mrs. Solomon Williams Brynaerau, fod William Dafydd wedi codi ar ei draed yn y seiat ddilynol i'r ymadawiad, gan fynegi ei lawenydd mewn modd hamddenol iawn wrth weled cychwyn Brynrodyn, ac yn rhagweled cychwyn canghennau eraill. William Williams a godai ar ei draed, â'i law ym mhoced ei wasgod. Er hiraethu ar ol y cyfeillion, fe geisiai weddio am ymweliad â'r ardal, nes fod mwy yn dod i mewn nag a aeth allan, ac ond i bawb weddio felly y ceid yr ymweliad. Ymroes y ddeadell fechan i weddio am ddiwygiad, a chedwid hynny mewn golwg ganddynt yn eu gweddiau, nes cael ohonynt ddiwygiad 1793, y cyfeiriwyd eisoes ato. Fe glywodd Mrs. Williams yr ychwanegwyd y pryd hwnnw at yr eglwys ddau am bob un a ymadawodd i Frynrodyn. Yn 1796 y cychwynnwyd yr ysgol Sul, meddai D. Llwyd. Bob yn ail Sul fe nodid nifer o'r newydd i'w chynnal, a chyfrifai y rheiny hi'n faich arnynt, rhag maint eu hawydd am glywed pregethu, fe ddywedir. Yr oedd y bregeth yn y Ffridd y bore, ac yn y Buarthau y prynhawn a'r hwyr. Bychan ac isel iawn, medd D. Llwyd, oedd yr ysgol yn ei dechreuad. Bu Owen Williams yn cadw ysgol ar nosweithiau'r wythnos cyn hyn, a pharhaodd gyda'r gorchwyl. Elai i'r Garn hefyd ar noswaith arall. Bu ef yn fwy llwyddiannus gyda'r ysgol noson waith. Yn y capel yr ymddengys y byddai. Dywed yr Asiedydd y byddai ganddo ddwsinau o bobl mewn oed wedi eu trefnu yn rhengoedd ar y meinciau, ac y cerddai yntau rhwng y meinciau gan wrando arnynt yn darllen. Er mwyn i bawb gael goleuni, dodai'r athraw râff o lafrwyn ar draws y capel, wedi ei sicrhau â hoelion wrth y ddau ben, a gwthiai frigyn helyg yma ac acw rhwng y bleth yn y rhaff, ac mewn hollt ymhen y brigyn y dodid y ganwyll frwyn. Yr oedd gan yr athraw gynllun arall at oleuo. Brigyn helyg â cheinciau arno, a hollt ymhen pob cainc i ddal y canwyllau. Gwasanaethai'r seren helyg yn effeithiol i oleuo'r lle. Dysgodd yr athraw hwn ugeiniau o bobl i ddarllen. Yr oedd yn holwyddorwr effeithiol. Dywedai bachgen oedd yno ar y pryd wrth yr Asiedydd, ei fod yn holi ar ddiwedd ysgol ar brynhawn Sul unwaith pryd yr oedd yr haul yn tywynnu yn braf. "A oes