Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/119

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

tywynnu haul yn uffern?" fe ofynnai, a chreid argraff ddwys gan y dull o ofyn. Nodir gan yr Asiedydd y rhai yma fel rhai lafuriasant gyda'r ysgol ar ei chychwyn: William Williams Tŷ Capel, William Sion Pandy hen, William Dafydd, John Roberts Eithinog ganol, wedi hynny o'r Castell, Llanddeiniolen. Bu ymweliad Charles yn 1804 yn foddion i godi'r ysgol yngolwg y bobl. Byddai Catrin Thomas Penygroes yn arfer adrodd, ei bod hi a Chatrin Griffith, pan yn lodesi tua deg oed, wedi cael Testament yn wobr gan y Parch. John Roberts am ddysgu Mathew xxv., a'i hadrodd i Charles. Ar ol hyn fe awd i gynnal yr ysgol mewn tai yma ac acw, cystal ag yn y capel, er mwyn cyfleustra y bobl. Yr oedd Robert Thomas y Ffridd yn cadw math ar ysgol yn ei dŷ ei hun cyn cychwyn yr ysgol Sul yn y rhan yma o'r wlad. Holai Robert Thomas ei deulu ar nos Sul am yr hyn a ddysgwyd ganddynt o'r blaen, a byddai yn arfer a'u holi ar ddull catecism ysgrythyrol, allan o gatecism o'r fath, feallai. Yn fuan fe'i cynorthwyid ef yn hynny gan John, ei fab hynaf. Cynelid yr ysgol deuluaidd hon ar nosweithiau'r wythnos hefyd. Bernir ddarfod i Robert Thomas ddechre ar y gwaith yma yn fuan ar ei droedigaeth, ac felly oddeutu 1768. Cychwynnwyd yr ysgol Sul yn y Ffridd ymhen ysbaid ar ol ei chychwyn yn Llanllyfni. Mae'r amseriadau yn ansicr. Os mai yn 1796 y sefydlwyd hi yn Llanllyfni, fel y mae'n debyg, a chan iddi fod yn hir yn ddiffrwyth yno, mae gradd o debygrwydd na chychwynnwyd mohoni yn y Ffridd am rai blynyddoedd; ond tybir ei bod yno cyn ymweliad Charles yn 1804.

Bu William Dafydd farw, wedi hir gystudd, y Calan, 1802. "Gwr call, addfwyn, enillgar, cymeradwy," ebe Griffith Solomon am dano (Drysorfa, 1837, t. 119). Yn niwedd ei oes, fe fyddai yn rhaid ei gario i'r pulpud, ac eto wedi myned yno unwaith fe bregethai mor fywiog a blasus a phe buasai yn hollol rydd oddiwrth bob anhwyldeb (Drysorfa, 1837, t. 154). A dywed Michael Roberts ei fod yn bregethwr buddiol iawn, ac y bu'n ffyddlon iawn am flynyddoedd lawer. Eb efe: "Yr oedd yn wr ymadroddus, cadarn yn yr Ysgrythyrau, yn meddu dawn ddeallus a melus iawn, ac â gair da iddo gan bawb a'i hadwaenai."

Bu Robert Roberts farw yng Nghlynnog yr un flwyddyn. Fe bregethodd yn y Buarthau 119 o weithiau ar wahanol destynau. Gellir gweled rhestr y testynau hynny yng Ngoleuad Cymru, 1826, (t. 341), ac yn ei Gofiant.