Yn 1809 fe symudodd John Roberts i Langwm. Brawd ydoedd ef, fel y mae'n hysbys, i Robert Roberts Clynnog. Nid pobl gyffredin oedd y rhieni, ac yr oedd rhywbeth nodedig yn rhai o leiaf o'r plant, ac yn eu hiliogaeth. A'u cymeryd fel teulu, y maent yn ddiau gyda'r hynotaf a fu yn sir Gaernarvon. Cyrhaeddodd John Roberts safle uchel yn y Cyfundeb yn ei ddydd. Dodid ef i bregethu yn fynych yn y lleoedd pwysicaf yn y cymdeithasfaoedd. Ordeiniwyd ef yn yr Ordeiniad cyntaf yn 1811. Daeth yn aelod oddeutu'r un adeg a'i dad, sef yn 1768. Dechreuodd bregethu ymhen rhyw 11 mlynedd. Yr ydoedd yr hynaf o dri arddeg o blant, a chynorthwyodd ei dad i'w maethu yn yr Arglwydd. Fel y dengys y Cofiant Seisnig diweddar i Thomas Charles, fe ymroes i lafur, yn helaethach nag y gwyddid o'r blaen, feallai, gyda'r Ysgol Sul, ac mewn gwasgaru Beiblau a llyfrau buddiol. Yr oedd yn cadw ysgol ddyddiol cyn dechre pregethu, ac wedi cyrraedd gradd dda o wybodaeth ei hunan. Efe a deithiodd lawer efo'r gwaith o bregethu. Yr ydoedd yn wr o ynni a rhwyddineb ymadrodd, cystal ag o wybodaeth a deall. Diau ddarfod i'r fath un fod o werth dirfawr i'r achos bychan yn Llanllyfni yng nghyfnod cyntaf ei hanes. Bu farw yn 82 mlwydd oed.
William Williams y Buarthau a ragfynegodd fod diwygiad ar drothwy'r drws, ond na byddai efe byw i'w weled. Ac felly fu. Bu ef farw Hydref, 1812, yn 72 mlwydd oed. Dechreuodd y diwygiad ym Mawrth, 1813. Mewn llythyr dyddiedig Medi 15, 1813, fe ddywed Robert Jones (Rhoslan wedi hynny) fod 90 wedi eu hychwanegu at yr eglwys yn Llanllyfni. Dywed Cyrus fod yr eglwys wedi cynyddu o 60 i 220 yn ystod y diwygiad hwnnw.
Yr oedd capel newydd yn cael ei adeiladu y flwyddyn hon, ac yr oedd yn barod i'w agor erbyn fod y diwygiad yn ei anterth. Dechreuwyd ei adeiladu ym Mawrth, 1812, a gorffennwyd ef ym Mehefin, 1813, a chynwysai le i 300, yn ol hen lyfr seti, ebe Cyrus. Yr ydoedd ar lecyn o dir a elwid Cae'refail, sef rhan o Tŷgwyn. Y tir yn 63 troedfedd wrth 54 wrth 78. Y brydles am 99 mlynedd, am £1 y flwyddyn. Yr ymddiriedolwyr: Henry Hughes Pant-du, Evan Richardson, Michael Roberts, William Roberts Clynnog, John Huxley, Richard Jones Coed-cae-du, Llanystumdwy, Evan Roberts Rhosyrhymiau, Hugh Hughes Caerau, Clynnog. Arolygwyd y gwaith gan John Hughes Gelli bach. Cytunwyd am £900; ond dywedir i'r draul fyned yn £100 yn ychwaneg. Adeilad da,