Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/121

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a barhaodd am 50 mlynedd heb ond ychydig draul am adgyweirio. Fe ddywedir fod twll wedi ei adael yn nhalcen deheuol y mur ar gais person y plwyf, fel y gallai efe glywed trwyddo pan fyddai John Elias yn pregethu. Yn yr agoriad, Mehefin 6, fe bregethwyd am 10 ar y gloch gan Robert Dafydd Brynengan (Deut. xxxii. 10) ac Evan Richardson (Salm lxv., 4); am 2, gan J. Huxley (Salm xlix., 14) a Richard Jones Coedcae (Iago i. 18); am 6, gan John Roberts Llangwm (erbyn hynny) (Salm iii. 10).

Y blaenoriaid a ddaeth o'r Buarthau i'r capel newydd oedd William Sion Pandyhen, Ifan Robert Rhosyrhymiau, Hugh Hughes y Caerau, ac, yn ol Cyrus, Robert Griffith Bryncoch, ond, yn ol yr Asiedydd, Robert Evans Ty'nllwyn.

Awst 12, 1813, yr oedd Michael Roberts yn pregethu yn y capel newydd, am y tro cyntaf yno, ar Deuteronomium iv. 4: "Ond chwi y rhai oeddych yn glynu wrth yr Arglwydd eich Duw, byw ydych heddyw oll." Dywed Cyrus fod yr hybarch Robert Jones, y Bedyddiwr, wedi clywed llawer am y bregeth hon gan ei rieni. Dyma sylw neu ddau a adroddid ganddo: "Ein bywyd tragwyddol yn troi, nid ar ein gwaith yn dod i'r seiat, ond ar lynu wrth yr Arglwydd." "Nid ydym ond darnau o winwydden wyllt, ac os ydym am gyfranogi o fywyd y wir winwydden, rhaid i ni lynu, neu fe ddaw y diafol i'n hysgwyd i ffwrdd. Weithiau chwi welwch y môr mawr yna yn lluchio llongau cryfion nes byddont yn ddarnau yn erbyn y creigiau, pryd y bydd y gragen fach yn gallu herio ei holl ymchwydd cynddeiriog, am ei bod hi'n glynu wrth y graig." Ar ddiwedd y bregeth, fe ofynnai a oeddynt yn bwriadu glynu wrth yr Arglwydd, pryd y gwaeddai ugeiniau, "Ydym."

Tachwedd 29, o'r un flwyddyn, am ddau ar y gloch, yr oedd John Elias yn pregethu ar 1 Ioan, iii. 20: "Oblegid os ein calon a'n condemnia, mwy yw Duw na'n calon, ac efe a ŵyr bob peth." Cyrus a ddywed fod Mrs. Williams Brynaerau yn teimlo am wythnosau megys pe bae rhyw lygaid yn tremio arni ym mhob man. Yr oedd y pregethwr â'i wyneb at y gynulleidfa o'r tuallan i'r capel, am fod y rheiny yn lliosocach.

Mai, 1814, cafwyd y Cyfarfod Misol cyntaf yn y capel newydd. John Jones Tremadoc yn pregethu ar Diarhebion ix. 4; E. Richard- son ar 2 Timotheus iii. 19; Michael Roberts ar Salm cxxxix. 23;