Owen Eames, a Robert Evans Ty'nllwyn neu ynte Robert Griffith Bryn coch. Bu ymrafael blin oherwydd y dewisiad, a'r eglwys yn aros heb gynnydd.
Mawrth 1816, Cyfarfod Misol. Y pregethwyr: Daniel Jones Llandegai, Robert Jones Dinas, James Hughes Lleyn, Michael. Roberts, John Jones Tremadoc, Evan Richardson, Robert Dafydd Brynengan.
Yr Ysgol Sul erbyn hyn wedi ymganghennu o'r Ffridd (1) i'r gegin eang yn hen blâs Nantlle (1812) a Phenbrynmawr (1812); (2) o'r "gegin" a Phenbrynmawr i Rhwng-y-ddwy-afon, lle preswyliai Catrin Samuel; (3) i'r Maes y neuadd; (4) i Bencraig; (5) i'r Taldrwst; (6) i Stryt y Gof Penygroes. Y gofalwyr am (2), Robert Evans Cil y llidiart (Ty'nllwyn wedi hynny), Hugh Hughes Caerau, John Prichard Penpelyn a'i ferch Gwen ym mhlas Nantlle, ac ym Mhenbrynmawr, Dafydd Jones, gwr y tŷ, Morris Prichard, Cae-efa lwyd, Richard Benjamin Minffordd, William Jones Tyddyn gwrth fychan; am (3) William Prichard Maesyneuadd, Robert Griffith Bryncoch; am (4), Sion Michael y trigiannydd a Griffith Williams Taleithin; am (5) Thomas Edwards y trigiannydd, Robert Jones Tan'rallt, William Roberts Buarth-y-foty, William Roberts Caeengan; am (6) Owen Eames Coedcae a D. Jones Penbrynmawr.
Yn 1817 y symudwyd o Maesyneuadd i Bencraig. Drws agored a phob croeso gan Sion Michael.
1818, Ebrill 8, Cyfarfod Misol. Pwnc, yr Ysgol Sul. Pregethwyd gan John Jones Edeyrn (Exodus xix., 11), E. Richardson (2 Corinthiaid x., 4); John Jones Tremadoc (Salm xlv., 2); Michael Roberts (1 Petr i., 8); Griffith Solomon (Pregethwr vii., 14). Edrydd Cyrus fod cofnodion Robert Parry, y blaenor, yn dweyd y cafwyd ymdriniaeth helaeth ar yr Ysgol Sul, ac yn adrodd fod mewn pedair o siroedd yn y Gogledd, ynghyd a dwy o drefi Lloegr, 42,000 o Gymry dan addysg ynddi, a bod dylanwad yr ysgol yn gwladeiddio'r bobl i raddau mawr. Yr oedd nifer ysgol Salem y pryd hwn yn 160. Derbyniwyd John Michael Pencraig, a oedd newydd ei ddewis i'r swyddogaeth yn Salem, yn y Cyfarfod Misol hwn.
Mae Dafydd Llwyd yn amseru dechreuad diwygiad y tymor yma yn Salem ym mis Ebrill, 1819. "Galwyd ugeiniau i'r eglwys