Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/124

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn y tro, ac mae llawer ohonynt yn cael modd i sefyll yn ffyddlon yn Nhŷ'r Arglwydd y nôs, ac arwyddion amlwg ar lawer ohonynt fod yr Arglwydd am eu hachub." Edrydd yr Asiedydd hanesyn ar ol Griffith Roberts, meddyg esgyrn yn Llanllyfni, am ddyn mawr cyhyrog, ymladdwr a helwriaethwr. Daeth hwn i'r eglwys yn Salem ychydig cyn y diwygiad. Pan glywodd efe am ei hen gyfeillion ym Meddgelert yn dod at grefydd, aeth i'w cyfarfod fel y deuent i'r Sasiwn yng Nghaernarvon, a chafodd hwy ar y ffordd yn dyfod gan neidio a moli Duw, ac nid hir y bu yntau heb ymuno â hwy.

Dywed Cyrus y rhoddwyd oriel yn y capel yn 1820 i gynnwys 140. Mae "J.E.," mewn nodiad yn llyfr Cyrus, yn dweyd ar ol rhyw "hanesydd" mai yn 1837 y bu hynny.

Cynhaliwyd Cyfarfod Misol ym Mai, 1820. Pwnc, Cadwraeth y Saboth. Pregethwyd gan Morris Jones Llandegai, John Jones Tremadoc, Daniel Jones Llandegai, James Hughes Lleyn, Moses Jones Brynengan, Evan Richardson.

Awst 1821 yr agorwyd capel Talsarn, ac y ffurfiwyd yr eglwys yno. Aeth ugain o aelodau Salem yno. Daeth Talsarn a Llanllyfni yn daith yn y canlyniad.

Yn ol Cyrus yr oedd rhif y pregethau a gafwyd yma yn 1818 yn 129, ac yn 1822 yn 151. Yn ystod y flwyddyn 1818, fe gafwyd y rhai yma am y tro cyntaf yn Salem: John Elias, W. Morris, Ebenezer Morris, Moses Parry Dinbych, Dafydd Cadwaladr, Morris Jones Llandegai.

Awst 31, 1822, y bu farw Catrin Prichard. Fe geir Cofiant iddi yng Ngoleuad Cymru, 1830, (t. 206). Rhoi'r y sylwedd ohono yma: Ganwyd hi yn y Gyrn Goch, Clynnog, yn 1734. Clywyd hi'n dweyd ddarfod iddi ddewis ei phobl yn 22 oed, ac na byddai arni eisieu eu newid fyth. Galwyd hi drwy wrando pregethwr o'r Deheudir yn y Berthddu ar Mathew xi. 5, "Y mae y deillion yn gweled eilwaith." Dyna'r pryd yr agorwyd llygaid Catrin Prichard. Bu am ryw ysbaid gyda Howell Harris yn Nhrefecca. Arferai fyned i'r Gymdeithasfa flynyddol yn Llangeitho. Bychan oedd ganddi gerdded ddeg neu bymtheng milltir ar fore Sul i wrando pregeth. Deuai adref o Glynnog neu'r Tŷ Mawr Bryncroes gyda "llonaid ei homer yn wastad." Pan oedd yn 32 oed ymbriododd