Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/128

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddim holwyddoregau plant y dyddiau hynny, ond holi pethau syml fel y deuent i'w meddwl. Ar ol holi, byddai un dyn tra chrefyddol yn rhoddi cynghorion syml i'r plant. Bum flynyddau heb feddwl am danynt, ond y maent erbyn hyn ers amser maith yn fyw ar fy meddwl."

1827, Medi 9, David Jones Dolyddelen yma am y tro cyntaf am ddau ar y gloch. Testyn, Luc xvi. 24: "O dad Abraham, trugarha wrthyf, a danfon Lazarus." Tyrfa fawr yn gwrando.

1828, Awst 14, Cymanfa Ysgolion Dosbarth Llanllyfni. Rhoir yma grynodeb o hanes y cyfarfod allan o'r adroddiad yng Ngoleuad Cymru, 1830 (t. 174). Y mater, y pechod o gydorwedd ac anlladrwydd. Llawer o ieuenctid yn byw mewn pechodau ysgeler, ac yn edrych arnynt fel pethau diddrwg a diniwed. Cynnydd mawr ar gydorwedd yn y wlad. Cydorwedd yn dra niweidiol ei effeithiau am ei fod yn temtio i buteindra. Y brif saeth sydd gan y diafol i gwympo ieuenctid â hi. Y dylai rhai yn yr ystâd briodasol ddweyd wrth ieuenctid am eu peryglon. Y dylid cynghori yn yr Ysgol Sul, am fod aelodau'r ysgol yn cydorwedd â'u gilydd ar nos Sadyrnau a nosweithiau eraill, ac am fod yn haws dweyd yn yr ysgol nag o'r pwlpud, ac am fod pennau teuluoedd yn caniatau yr arfer i'w plant a'u gwasanaethyddion, heb ei ystyried yn ddim amgen nag arfer gwlad, ac heb weled ynddo ddim niwaid. Eisieu i'r athrawon ddeffroi ac ymwroli yn erbyn y drwg. Mae hanes arall yn dweyd fod John Jones yn llefaru yn nerthol a difrifol yn y cyfarfod hwn.

Bu John Jones yn cynnal cyfarfod gyda'r plant bob blwyddyn am ddeng mlynedd yn olynol yn y cyfnod hwn.

1828, Mehefin, Cyfarfod Misol. Pregethwyd gan James Hughes Lleyn (1 Samuel i. 30); Richard Jones Wern (1 Timotheus i. 5); Hugh Parry Sir Fflint (Esay. xxxiv. 16); Daniel Jones Llandegai (Actau ii. 37); William Jones Talsarn (Ioan x. 14); John Williams Llecheiddior (1 Ioan i. 7). Cyfri'r casgl at y Gymdeithas Genhadol. yn dangos i £12 16s. 4c. gael eu cyfrannu yn nosbarth Llanllyfni. Yr oedd y casgl misol yn Salem erbyn Hydref 4 yn £1 7s. 8c.

1831, Tachwedd 12, Lewis Edwards Sir Aberteifi yn pregethu oddiar Luc xxiv. 26, "Onid oedd raid i Grist ddioddef y pethau hyn a myned i mewn i'w ogoniant."