Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/130

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn y flwyddyn hon y troes William Griffith, ar ol hynny o Bwllheli a Chaernarvon, oddiwrth y Bedyddwyr. Yn y flwyddyn 1835 yr ymadawodd efe i Bwllheli.

Yn 1835 yr oedd Morgan Howels yma yn casglu at ei gapel yng Nghasnewydd. Casgl Llanllyfni, £3 15s. 9c.

Hydref 26, 1836, dechre Cymdeithas Cymedroldeb.

Bu yma Gyfarfod Misol yn 1836. Dyma'r derbyniadau ato: Llanllyfni, £6 9s. 61c.; Caernarvon, £1 6s. 3c.; Waenfawr, 6s. ; Bryn'rodyn, 4s.; Carmel, 6s.; Bwlan, 4s. 6c.; Beddgelert, 2s. ; Rhyd-ddu, 4s. 2c.; Talsarn, 13s. 9c.; Capel Uchaf 8s.; Brynaerau, 5s Cyfanswm, £10 9s. 3c. Taliadau: Am gig, £2 11s. Oc; blawd, 16s.; diod, £1. 2s 6c.; siwgr a thê, 4s. 7½c.; bil John Jones, 8s. 5c.; bil Robert Parry, 16s. 6c.; mân bethau, 12s.; i'r llefarwyr, 14s. 6c. Gweddill, £3 3s. 9c. "Setlwyd pob peth perthynol i'r Cyfarfod gan John Williams, Owen Eames, a John Michael, gyda Daniel Williams yn dyst eu bod yn gwneuthur yn iawn." Y pregethwyr y rhanwyd y 14s. 6c. rhyngddynt oedd. Daniel Jones, James Hughes, Griffith Hughes, Griffith Solomon, Evan Williams Pentreuchaf, Owen Thomas Bangor.

Yn 1837 y daeth William Owen yma o Garmel mewn canlyniad i'w briodas. A'r flwyddyn hon daeth John Hughes, pregethwr gyda'r Anibynwyr cyn hynny, i gadw ysgol yma. Arosodd hyd 1841. Gwr deallus.

Yn 1838 gwnawd Talsarn a Llanllyfni yn daith. Yn y cyfnod hwn Daniel Williams, mab W. Williams Buarthau, oedd ysgrifennydd yr eglwys; a Sion William, mab William Sion Pandyhen, yn drysorydd. Darfu i Daniel Williams ddilyn ei dad fel ysgrifennydd, a bu yn y swydd am 40 mlynedd, sef hyd ei ymadawiad i'r America yn 1847.

Yn 1840 dewiswyd yn flaenoriaid, Robert Parry Ty'nllan, John Prichard Penpelyn, a William Hughes Tŷ-ucha-i'r-ffordd, ac yntau yn 22 mlwydd oed. Arosodd W. Hughes am dair blynedd. pryd y symudodd i Dalsarn, lle y dechreuodd bregethu.

Fe brofwyd o ddiwygiad yr amser hwn, a chwanegwyd nifer at yr eglwys.

Y mae gan John Owen (Ty'n llwyn) gofiant i Griffith Edwards yn Nhrysorfa 1840 (t.12). Ganwyd ef yn 1811. Ni amserir ei farwolaeth. Ffrwyth diwygiad 1833. Drwy ei ddiwydrwydd ei