Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/139

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pan oedd eraill hŷn nag ef yn gwrthod, ac ni roes y gwaith i fyny ar ol hynny. Ufudd i bob galwad arno yn yr eglwys. Cyson ym mhob moddion hyd y caniatae ei iechyd, prydlon i'r funyd. Athraw llwyddiannus gyda dosbarth o ferched.

Mawrth 5, cynhaliwyd cyfarfod ymadawol i Mr. Howell Roberts (Hywel Tudur), wedi bod ohono yn yr ardal am oddeutu wyth mlynedd fel athraw yn yr Ysgol Frytanaidd, ac yn gwasanaethu fel blaenor yn yr eglwys. Mewn anerchiad barddonol eiddunai Alafon

"Lawer o hufen i deulu'r Hafod."

Medi 18, 1874, yn 87 mlwydd oed, y bu farw Jane Hughes Ty'nypant. Hen wreigan blaen, ysmala, ddigrif, dduwiol, ebe'r Asiedydd. Arferai adrodd am dani ei hun yn yr amser gynt yn prysuro gyda'i gorchwyl er myned i'r bregeth yr hwyr, bum milltir o ffordd, a'i dwy esgid dan ei chesail, a'r fath flas a gawsai hi yn y moddion. Byddid yn wylo a chwerthin bob yn ail wrth wrando arni yn dweyd ei phrofiad. "Ddaethochi?" ebe hi wrth yr Asiedydd, pan ddeuai efe at ei drws i gasglu at y Feibl Gymdeithas neu'r Gymdeithas Genhadol, "yr oeddwn yn eich disgwyl." Yna hi elai i hen siwg ar astell uchaf y dresel, a chyrchai swllt oddiyno. "'Roeddwn wedi i giadw i chi ers dyddia." A hi a roddai fwyaf yn y dosbarth hwnnw o'r ardal. Drosti ei hun a'r teulu a Chymru a'r America, lle'r oedd ganddi deulu, yr arferai hi a gweddio, nes y deallodd wrth Thomas Jones y Post, mewn ymddiddan âg ef rywbryd, ei fod ef yn gweddïo dros y byd. Y tro nesaf iddi ei weled, hi a'i hysbysodd ef ei bod hithau bellach yn gweddïo dros yr holl fyd, gan ei bod yn gweled Iawn y Groes yn ddigonnol i'r byd mawr cyfan.

Yn 1878 y dewiswyd W. Williams Felin gerryg, John Owen Gelli bach, W. W. Jones a Henry Williams Tŷ capel yn flaenoriaid. Ymadawodd W. Williams a J. Owen y flwyddyn ddilynol.

Y flwyddyn hon neu'r flaenorol y bu farw Griffith Hughes y Buarthau. Yn weithiwr yn y chwarel, fe gasglodd wybodaeth go helaeth yn ei oriau hamddenol, a daeth i fedru mwynhau llyfrau Saesneg. Ystyrrid ef yn ddyn o gynneddf gref; ac yr oedd iddo, megys i Demetrius, air da gan bawb a chan y gwirionedd ei hun. (R. Thomas). Yn 1878 y bu farw W. Jones Ty'nllwyn.