Y Parch. D. Jones yn ymadael i Lanfairtalhaiarn, ar alwad oddiwrth yr eglwys yno, wedi dod yma yn bregethwr yn 1873. Nodir gan Cyrus, dan y flwyddyn 1879, fod yna 195 o deuluoedd yn yr ardal, yn cynnwys 882 o bobl; ac o'r rhai'n fod 571 dros 13 oed, 230 rhwng 3 a 13, ac 81 dan dair oed. A bod y Methodistiaid yn hawlio 569 ohonynt.
Ymwelodd Richard Owen â'r lle, nos Fawrth, Gorffennaf 3, 1883. Y noswaith hon y rhoes efe bregeth gyntaf ei genhadaeth yn Nyffryn Nantlle. Er y sôn am dano ym mhen arall y sir ni ddisgwylid rhyw lawer oddiwrtho ef yma. Yr Arglwydd yn gofyn i Adda, Pa le yr wyt i? oedd y testyn. Gwesgid y gynulleidfa i aethau o gyfyngdra. Y gynulleidfa yn fawr iawn y noswaith nesaf. Pregethodd mewn dau gapel nos Sul. Elias ar ben Carmel oedd ei bwnc yn Salem, ac yr oedd yno orfoledd mawr, na chlybuwyd y cyffelyb er diwygiad 1859. Yr oedd y cynulleidfaoedd yn fawr anferth. Yr oedd y dydd Gwener yn ddiwrnod ffair, a meddyliai llawer mai ofer fyddai iddo bregethu y diwrnod hwnnw. Eithr yr oedd y fath nerth gydag ef y nosweithiau blaenorol, fel y credwyd ei gyhoeddi y prynhawn a'r hwyr. Dyryswyd y ffair, a chafwyd oedfaon anghyffredin. (Cofiant R. Owen, t. 153).
Awst 24 bu farw Thomas Jones y Post yn 60 mlwydd oed, wedi bod yn swyddog er 1866. Efe oedd trysorydd yr eglwys, ac efe, ebe'r Asiedydd, oedd asgwrn cefn yr achos mewn blynyddoedd. diweddar. Gwyliai yn ddyfal beunydd wrth y drysau, gan warchod wrth byst y pyrth. Gwrandawr serchog, cyfaill dihoced, gweithiwr difefl. Nid anghofiodd letygarwch. Ei ddawn oedd ymroddiad diarbed i'r achos. Noda Mr. R. Thomas ei fod yn foddlon i wneud y pethau bychain. Bu'n cerdded i ysgol Penychwarel ar bob tywydd am ddeuddeng mlynedd. Yr oedd efe yn nai i Fanny Jones Talsarn.
Nid oedd ynddo un uchelgais
Fel y Diotrephes gynt;
Nid y blaen ond man i weithio
Oedd ei bleser ar ei hynt.
Yr un flwyddyn dewiswyd yn flaenoriaid: John Roberts Manchester House, Edmund Williams, Ysgol y Bwrdd, William Griffith Dôl Ifan. Yn 1885 pwrcaswyd 280 llathen betryal o dir am £17; ac adeiladwyd arno ysgoldy Penychwarel yn ystod 1886—7. Yn ystod