Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/141

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr un amser gwariwyd £776 1s. 7c. ar adnewyddu y capel a'r adeiladau perthynol.

Ebrill 1889, ymadawodd y Parch. R. Thomas y bugail, gan dderbyn galwad o Lanerchymedd, ar ol arosiad yma am yn agos i 20 mlynedd. Diwedd y flwyddyn hon yr oedd rhif yr eglwys yn 266. Y ddyled wedi ei thynnu i lawr yn 1884 i £43. Y ddyled yn niwedd y flwyddyn hon yn £1050.

Yn 1890 derbyniodd y Parch. G. Ceidiog Roberts alwad yr eglwys, gan ddod yma o Faentwrog.

Yn 1896 bu farw Richard Jones, yn 81 oed, wedi gweithredu fel blaenor ers deuddeng mlynedd arhugain. Trymaidd, arafaidd, gochelgar, yn edrych tua'r llawr. Lled esgyrniog a garw ei wedd, lled dawedog, go anibynnol, siriol gyda'i gyfeillion. Felly y dywed Mr. Llewelyn Owain, a chrynodeb byrr o'i ysgrif ef geir yma. Arferai ddarllen y Faner i'r gweithwyr yn y gloddfa ar yr awr ginio yn wr ieuanc. Dysgodd yr Hyfforddwr yn drwyadl, a gallai ei alw i fyny at ei wasanaeth unrhyw bryd. Dewiswyd ef yn athraw cyn bod ohono yn aelod. Un o blant diwygiad '59, y pryd hwnnw yn 44 oed. Tynnai ei law ol a blaen ar ei fynwes wrth siarad yn gyhoeddus. Ni ddanghosai awydd siarad, ond byddai bob amser yn synwyrol, ac yn fynych yn gyrhaeddgar ac ysgrythyrol. Byrr ac i bwrpas. Gwr darbodus a chynil. Cyfiawn yn hytrach na thrugarog. Go Galfinaidd ei olygiadau. Athraw effeithiol, yn rhoi pwys ar y darlleniad, ac yn dwyn allan yr ystyr. Craff fel arolygwr ysgol. Taer mewn gweddi gyhoeddus. Cadwai'r ddyledswydd deuluaidd yn ddifwlch. Mynych yr adroddai wrtho'i hun y pennill hwnw:

Rhyw fôr o gariad yw
Dy heddwch di fy Nuw,
A nef y nef yw gweld dy wedd.


Llym yn erbyn dichell a thwyll. Prin ei eiriau wrth ddisgyblu : yn ochelgar a gofalus rhag brifo'r teimlad. Ei brif lyfrau, esboniadau Scott, Thomas Jones Caerfyrddin a Mathew Henry, Geiriadur Charles a Gurnall.

Chwefror 10, 1899, yn 77 oed, y bu farw Robert Roberts, yn flaenor ers 43 mlynedd. Crynhoir yma eto allan o Mr. Ll. Owain. Cymeriad Cymreig. Henwr bychan, pert, gwisgi. Parod ar alwad, gyda chyffyrddiad o'r gorchestol yn ei ddull. Mymryn o ysmaldod. Cyn priodi yngwasanaeth amaethwyr; wedi hynny yn y chwarel.