Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/143

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn swyddog i'r Cyfarfod Misol, sef mai gwinllan oedd yr eglwys, ac yntau i fod yn weithiwr ynddi. Ganwyd ef yr un dydd o'r mis ag y bu farw, a bu farw ei fam yr un dydd o'r mis. Canodd Einion ei frawd:

Y fam a wenai, nis gallai lai . . .
'Roedd yn y bwthyn lawenydd didrai
Ar fore'r Pedwerydd arddeg o Fai.

. . . .


Y mab wrth y gwely yn gwylio'n syn,
A'i fam mewn tawelwch yn croesi'r glyn.
Wylo mae'r bachgen a'i ddagrau heb drai
Ar fore'r Pedwerydd arddeg o Fai.

. . . .


Mai eto'n gwenu a'i flodau cann,
A'r mab ar ei wely yn llesg a gwann
A thrwy afon angeu o'n golwg yr âi
Ar fore'r Pedwerydd arddeg o Fai.

Yn 1900 dewiswyd yn flaenoriaid: D. D. Thomas, J. B. Davies, H. Williams, W. R. Williams.

Dywed yr Asiedydd ddarfod iddo weled llyfr cyfrifon yr Ysgol Sul am 1828 ymlaen. Dyfynna ychydig. Yn nosbarth yr AB, 21; silladu, 29; dechre darllen, 11; Testament, 38; Beibl, 88. Ysgol y Mynydd, 28. Yr holl ysgol, 215. Casglwyd at lyfrau yn ystod y flwyddyn 1828, 14s. 7g. At dalu dyled y capel yn 1832 (sef gan yr ysgol, debygir), £2 12s. 8½g. Enwau yr holwyr yn ystod y flwyddyn (1832, debygir): Owen Eames, John Michael, Griffith Roberts a Robert Evans. Sonir hefyd am lyfr arall yn cynnwys llafur a rhif yr ysgol o 1838 hyd 1882. Cymherir 1838 ag 1882 fel yma: 1838. Athrawon, 29; athrawesau, 0; ysgolheigion, 176; yr oll, 205; penodau, 2474; adnodau, 2025; Hyfforddwr, 822 (penodau); Rhodd Mam, 253; hymnau, 0; Deg Gorchymyn, 36. 1882. Athrawon, 47; athrawesau, 12; yr oll, 346; penodau, 0; adnodau, 51,400; Hyfforddwr, 50; Rhodd Mam, 596; hymnau, 2,763; Deg Gorchymyn, 0. Yng nghyfrif 1882, fe gynwysir y canghennau, sef yr ysgoldy a Phenychwarel. Rhoi'r enwau arolygwyr y "deugain mlynedd diweddaf," sef 1842-82, debygir. Dyma nhwy: William Owen Penbrynmawr, Robert Parry Siop, William Jones Ty'nllwyn, John Griffith Cae du, Henry Hughes Rhos y rhyman, Robert Roberts Nant y Gwyddyl, Owen Jones. Tir bach, Griffith Jones Cefnas llyn, Richard Jones Penrhos, Howel Roberts Ysgolfeistr, Griffith Hughes Buarthau, John Roberts Manchester House, W. W. Jones Llyfrwerthydd, Owen Rogers Felin gerryg, William Williams Felin gerryg, William Jones Pandy