Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/146

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iadau fynychaf. Rolant Hughes Dolwenith a gyrhaeddodd wth o oedran, ac yn ei amser olaf ar ei ddwyffon. Fel athraw, yn gallu cymhwyso'r gwirionedd at y gydwybod. "Dyma Rolant Hughes yn dyfod, lads," ebe'r oferwyr, " rhaid ini fyned o'r ffordd nes yr ä heibio." Gweddiwr hynod. Ei ddull mewn gweddi bob amser fel un yn ymddiddan wyneb yn wyneb. Y dywediad ar ei ol, "Pwy bynnag sydd yn y nefoedd, y mae Rolant Hughes yno." "Perthyn i'r hen siort yr oedd Dafydd Jones Tu-draw-i'r-afon. Garw, afrywiog, heb allu ymserchu ond yn yr hen siort o bethau. Aeth allan wedi ei gythryblu unwaith wrth i'r pumed godi i weddïo, yn lle'r pedwar arferol. Yn cyfarth y blaenoriaid beunydd. Ond yn ymnewid trwyddo ar ei liniau; yno yn ostyngedig yn y llwch, a'r pryd hwnnw maddeuid iddo gan bawb. Cafodd aros ar y ddaear yn ddigon hen i addfedu cyn myned oddiyma, sef pan dros 80 mlwydd oed. Bu Elin Hughes ei briod fyw fel yntau i fyned dros ei 80 mlwydd. Eu priodas hwy yr hynaf yn y plwyf. Perthynai i'r dosbarth o wragedd-feddygon. Bu o wasanaeth mawr mewn cyfnod nad oedd meddyg i'w gael yn nes na Chaernarvon. "Hen wraig y gyddfau " oedd yr enw arni gan rai am ei bod yn ddiail am wella'r dolur gwddf. Byddai astell isaf ei bwrdd tê yn arfer bod yn llawn o lyfrau, Y Beibl, Gurnall, pregethau John Elias, Christmas Evans, Morgan Howels, ynghyda llyfrau eraill. Yn amheuthyn i'w chlywed yn dweyd ei phrofiad. Gwen Jones Penrhos a fu farw yn gymharol ieuanc. Deallgar a darllengar, a thrwyadl gydnabyddus â phynciau ysgrythyrol. David Thomas Ty'n-y-pant-bach, ffrwyth diwygiad 1859. Tra ffyddlon gyda'r Ysgol Fach i blant tlodion o'i chychwyniad. Gaenor Jones y fydwraig oedd hynod ddawnus a siriol. Ei llais yn perori yn y gwasanaeth cyhoeddus. Cadwai'r ddyledswydd deuluaidd yn ddifwlch ei hunan. Nid oedd ei phriod yn perthyn i grefydd. Wynebodd angau yn ddifraw, Mawrth 17, 1866, pan ydoedd hi'n 68 mlwydd oed. Mary Griffith Ty'nllwyn, priod William Jones, oedd gyfnither i Nicander a mam i J. W. Jones, golygydd y Drych Americanaidd, a W. W. Jones (Cyrus). Daeth at grefydd yn amser diwygiad mawr Brynengan, ac arosodd ysbryd y diwygiad yn ei hesgyrn i'w diwedd. Tra chydnabyddus âg emynau Williams, a gallai adrodd unrhyw gyfran o'r Hyfforddwr oddiar ei chof, ac yr oedd ganddi wybodaeth eang yn yr Ysgrythyr. Gwrandawai bregeth yn astud a chofiai hi'n fanwl. Cadwai'r ddyledswydd deuluaidd ei hun, os byddai ei phriod yn absennol. Byddai gwrando arni yn traethu ei phrofiad