Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/148

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yma ymhellach fe geir rhai ail-adroddiadau. Ar ol nodi pregethwyr yr agoriad ar Fehefin 6, 1813, y nesaf yw, Mehefin 27, am 6, John Roberts Llangwm, Salm iii. 10. Mae Robert Parry yn gofnodydd manylaidd, a thebyg mai yn y Buarthau yr oedd y pregethau yn y cyfamser, am, fe ddichon, nad oedd y capel wedi ei gwbl orffen ar yr agoriad. Rhoir yma y tri mis dilynol: Gorffennaf 4 (2), John Humphrey Caernarvon, Actau x. 25; 11 (10), Henry Roberts Bangor, Numeri xxiii. 23; 18 (2), Wm. Roberts Clynnog, Jeremia vi. 16; 25 (2), Mr. Richardson, Hebreaid xii. 1. Awst 1 (10), Richard Lloyd Anglesey, 1 Cor. ii. 14; 8 (10), John Humphreys Caernarvon, Dat. vii. 13; 10 (2), Rhees Davies, 1 Tim. i. 15; 12 (6), Michael Roberts, Deut. iv. 4; 15, Richard Jones Coetgia, 2 Petr i. 4; 22 (2), Mr. Richardson, Heb. iii. 12, 13; 24, Robert Davies Brynengan, Ioan xvi. 22; 27 (2), Rhees Jones, Smith, Esay. lv. 1; 28 (2), Owen Jones Plas gwyn, Mat. vii. 21. Medi v. 10, John Huxley, Hosea, xiii. 14; 12 (10), Henry Roberts Bangor, Luc xxi. 22; 13 (6), John Jones Tremadoc, Gen. xii. 1, 2; 14 (6), Evan Lloyd, Ioan v. 25; 15, Richard Williams, Marc v. 19, 20; 23 (6), John Hughes shire Drefaldwyn, Eph. ii. 4; 24, David Bowen, Col. i. 13; 25, David Rhees Llanfynydd, Actau xi. 23; 25 (2), Humphrey Gwalchmai, 1 Tim. i. 10; 26 (2), Mr. Richardson, Heb. iii. 19; 29 (2), John Elias, 1 Ioan, iii. 20, 21. Sylwer yn y rhestr hon fod y pregethwyr cartrefol yn dod yn fynych. Felly y ceir hwy am yn hir. Hefyd, fod dieithriaid yn dod yn fynych ar eu teithiau, Sul a gwaith, brynhawn a hwyr, a bore hefyd, fel y gwelir mewn mannau eraill. Ac hefyd, nad oedd John Elias ddim yn Mr. Elias dan ar ol 1813.

Yn 1814, fe roes Owen Jones Plasgwyn 9 pregeth yma; Mr. Richardson, 8; John Humphreys, 8; Robert Sion Hughes, 5; William Roberts Clynnog, 4. Y rhan amlaf un bregeth yma ar y tro. Deuai y brodyr cartrefol hyn yma weithiau ar ddiwrnod gwaith. Gan y dilynid hwy ar y Sul gan liaws o'r naill fan i'r llall, tebyg fod nifer pregethau rhai ohonynt yn y daith yn fawr yn ystod blwyddyn. Tebyg fod eraill yn gweled mai gwell i bawb roi ohonynt hwy yr un bregeth fwy nag unwaith.

Yr oedd nifer y pregethau yma mewn blwyddyn, yn ystod 1814-32, yn amrywio rhwng 116 yn 1815 a 159 yn 1823. Cyfartaledd blynyddol 1814-32, 137. Nifer y pregethau mewn blwyddyn, yn ystod 1833-44, yn amrywio rhwng 122 yn 1843 a 147 yn