Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/149

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

1840. Cyfartaledd blynyddol 1833—44, 133. Pa ddelw bynag, ceid dwy bregeth ar y Sul fynychach fynychach, ac yr oedd y pregethu teithiol yn myned yn anamlach anamlach. Cafwyd 66 pregeth ar ddiwrnod gwaith yn ystod 1815; 68 yn 1823; 54 yn 1840; 34 yn 1843.

Y mae yma rai nodion a manion o ddyddordeb. Dyma "Mr." Elis Caergwrle ar ei daith, Gorffennaf 18, 1814, gwr o beth safle fydol. Gŵyr Robert Parry pwy ydyw pwy. Awst 30, dyma William Morris Deheudir am y tro cyntaf, hyd y dengys y rhestr hon. 1815, Mai 14, yn oedfa 10 y Sul, dyma "Mr." Howels a'i gyfaill Jencin Harris o'r Deheudir. Pwy ydoedd? Howel Howels, nid hwyrach, un o'r offeiriaid a lynodd wrth y Corff ar ol ordeiniad 1811. Yr oedd William Howels, Longacre wedi hynny, eisoes yn Llundain. Eithr ychydig a deithiai Howel Howels, fe ddywedir, a dichon mai gwr boneddig o ffarmwr a fu yma. Mehefin 6 (6), "Mr." Williams Lledrod, offeiriad arall gynt; a'r 25 (6), Thomas Richards Deheudir a'i gyfaill, enwocach gwr na'r un "Mr." ar ol dyddiau "Mr." Charles, ac ymhen deuddydd, William Havard a'i gyfaill. Gorffennaf 25, Theophilus Jones sir Aberteifi a'i gyfaill, sef y gwr a fu wedi hynny yn gynorthwyydd i Rowland Hill. Hydref 1, dyma Ebenezer Morris a'i gyfaill, y mwyaf o bregethwyr Cymru, ebe Henry Rees unwaith wrth Richard Lumley. Ond ni wiw ymhelaethu yn y dull hwn, er fod yma eithaf cyfle. Yn fyrrach ynte, yn 1816 dyma Thomas Jones Llanpumsaint, yr esboniwr, ac Ebenezer Richards; yn 1817, Robert Davies sir Drefaldwyn, John Davies Nantglyn, David Bowen, David Griffith sir Benfro, gwr mwy poblogaidd yn ei sir ei hun na Thomas Richards neu William Morris, ac nid i'w gael yn fynych ar daith, a dyma William Morris hefyd yn y man. Pa ryfedd fod yna fath ar gynddaredd yn y wlad am glywed pregethau yn y dyddiau hynny? Yn fyrrach eto. Yn 1818, un bore ym Medi, John Jones Edeyrn, a'r bore dilynol, William Havard. 1819, fore gwaith, William Roberts Amlwch; a'r hwyr ddiwrnod arall, Dafydd Rolant y Bala; ar yr un bore Sul, John Roberts Llangwm a John Elias; yn Nhachwedd, cyfarfod plant un Sul, Evan Harris Morganwg ar y llall, John Elias ar y llall. 1821, Sul olaf Medi, Thomas Jones Caerfyrddin a'i gyfaill y bore, sef yr un ag ef o Lanpumsaint, ac Ebenezer Morris yr hwyr. Digoned hyna fel enghreifftiau allan o'r blynyddoedd cyntaf yma. Anfynych, debygir, y torrid cyhoeddiad y pryd hwnnw, canys dyma