Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/153

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Evans Machynlleth, John Roberts Buckley. Thomas Hughes Machynlleth, yn wahanol i'r oll, a ddeuai ar ei ysgawt yn anisgwyl- iadwy fel seren wib, a William Prytherch yn ei gylchwy sefydlog fel seren gynffon. Codir hiraeth am adnabod Benjamin Sadrach sir Benfro a John Bywater sir Drefaldwyn a Watkin Williams y Deheudir a. Ond waeth hyna na chwaneg! Onid mawr braint cydoeswyr Robert Parry yn Llanllyfni, yn cael y fath ar- ddangosiad amrywiol o ddoniau, weithiau ar eu heithaf, yn y tra- ddodiad o'r Genadwri Fawr?

Llaw arall a fu'n cofnodi dros Robert Parry o Tachwedd 27, 1864, hyd Ionawr 1, 1865, neu efe ei hun bob sill cyn hynny; a'r Sadwrn wedi hynny efe a hedodd ymaith i'r wlad lle mae'r pethau yn cofnodi eu hunain yn gywir ddifeth ar daflenni o adamant, na ddileir mo'r argraff fyth bythoedd. Hyd hynny, diolch iti, Robert Parry, am dy gymwynas hon!