Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/154

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

BRYNRODYN.[1]

FE orwedd Brynrodyn tua hanner y ffordd rhwng Caernarvon a Chlynnog, ar y ffordd uchaf, yn rhan uchaf plwyf Llandwrog. Saif rhwng dau bentref bychan, sef Dolydd byrion a'r Groeslon. Fel yr arwydda'r enw, y mae'r capel ar godiad tir, nid nepell oddiwrth odyn y Felin Forgan. Fe saif ynghanol golygfa arddunol, rhwng môr a mynydd. Mynyddoedd yr Eryri tu cefn, y môr o'r blaen, gyda'r Eifl ar y chwith yn benrhyn pell, a gwastadedd Môn ar y dde i'w ganfod mewn rhan.

Saith ugain mlynedd yn ol nid oedd y boblogaeth ond prin, a chyflwr y bobl ydoedd eiddo gwerin gwlad yn gyffredin. Gwasanaethu ar amaethwyr yr oedd y rhan fwyaf, a rhai yn gweithio yn y chwareli. Yr oedd y Golomen yn hofran oddeutu yma heb le i roi ei throed i lawr. Nid ydys yn sicr bellach am yr union amser y cynhaliwyd Cyfarfod Misol yn y Dolydd byrion. Cytunwyd â gwraig y dafarn am le cyfleus a lluniaeth. Erbyn dod yno, pa fodd bynnag, yr oedd y bobl a ymgasglodd ynghyd mewn eithaf cywair i lesteirio'r moddion. Nid oedd fymryn o seibiant i'w gael, a churid tabyrddau yn fyddarol. Gwneid y cyfan dan rith amddiffyn yr eglwys wladol. Cyhoeddwyd y moddion yn Rhostryfan. Fel yr eid tuag yno, dyma swn y tabwrdd bygythiol i'w glywed yn y pellter drachefn. Ond yn y fan, tawodd yn ddisymwth. Aeth y tab- yrddwr i grynu, fe ymddengys, rhag ofn disymwth a'i daliodd, fel na fedrai fyned ymlaen. Awd â'r gwr i dŷ, lle porthwyd ef â diod er ei galedu ar gyfer ei orchwyl; ond pan ddaeth efe i'r un man ag o'r blaen, dyma ef eto yngafael y grynfa dost. Rhoi heibio'r amcan, a dychwelyd i'r dafarn. Cafwyd llonyddwch bellach gyda gwaith y cyfarfod. Mae Robert Jones, wrth adrodd yr hanes, yn rhoi ar ddeall ei fod ef yno, a dywed pan oeddynt hwy yn dychwelyd o'r moddion ddarfod i'r terfysgwyr ollwng rhai ergydion uwch eu pennau, a bod un wraig feichiog gerllaw wedi cael y fath fraw ag a fu'n angeu iddi.

Eithr fe gludodd y Golomen yr olewydden werdd yn ei gylfin. Yr ydoedd Ifan Sion Tyddyn mawr wedi ymuno â'r eglwys yn Llanllyfni oddeutu 1768, a chedwid ambell oedfa achlysurol yn ei dý ef. Nid oedd yma bregethu cyson, pa fodd bynnag, hyd y

  1. Ysgrif o'r lle. Ysgrifau gan Mr. Owen Hughes Baladeulyn, a Mr. Daniel Thomas, Groeslon. Nodiadau gan y Parch. John Jones, y gweinidog.