Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/155

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

flwyddyn 1773, sef yr amser y daeth Sion Griffith a'i wraig Elsbeth i fyw i ffermdy Brynrodyn; ac yma y disgynnodd yr Arch, ar ol bod am amser maith ar wyneb y dyfroedd. Y dynion amlwg gyda'r gwaith yn ei gychwyniad hwn, heblaw Sion Griffith, oedd Ifan Sion a Robert Hughes Cae Llywarch. Robert Hughes a fu farw cyn bo hir.

Mab oedd Sion Griffith i Owen Griffith Dynogfelen fawr. Nid oedd ei rieni yn grefyddol, a thyfu i fyny yn fachgen gwyllt anystywallt a ddarfu yntau. Aeth i wasanaeth i'r Graianog yng Nghlynnog. Llanc cryf o gorff, gydag iaith fras gymhleth â llwon a rhegfeydd. Un diwrnod yr oedd yn cydgau clawdd terfyn â Rowland Williams Henbant mawr. At yr hwyr, ebe Rowland Williams, "Sion, pe caeti ddafad am bob llw a roddaist ti heddyw, byddit gyfoethog iawn !" Suddodd y gair i feddwl Sion, arwydd sicr o'i reddf grefyddol, canys ni chafodd efe nemor neb i'w rybuddio hyd hynny. Ond er brathiad cydwybod, suddo i'r un hen arfer ddarfu Sion am ysbaid. Yn y cyfamser fe ymbriododd âg Elsbeth, merch y Penbryn bach, Llanllyfni, ac aeth yno i fyw. Pan syrthiai, yn ol hyn, i'r arfer o dyngu, fe ychwanegai yn y fan, fel un wedi ei ddal yn ddiarwybod iddo'i hun, "Duw fo'n maddeu i mi!" Ebe ei frawd-ynghyfraith wrtho ar un tro felly, "Sion, rhaid iti naill ai tyngu yn dy hen ddull, neu beidio â thyngu o gwbl; ac onide, mi a'th laddaf â'r gyllell wair yma!" Ar y ffordd i geisio gwair yr oeddynt ar y pryd. Wedi dychwelyd gyda'r baich gwair, wele Sion yn myned i'r ysgubor i weddïo. A dyma, fel yr adroddir, faich y weddi: "O, Iesu Grist, os medri di wared pobl rhag pechu, gwared fi rhag tyngu." A gwrandawyd gweddi Sion. Ar hynny, yn y man, fe ymunodd â'r eglwys yn Llanllyfni. Yr oedd argraffiadau crefyddol ers tro ar feddwl Elsbeth ei wraig hefyd, ond yr oedd ei rhieni yn wrthwynebol iddi ymuno â chrefydd ar gyfrif y draul arianol. Dywedai hi yn ei hen ddyddiau ddarfod i grefydd ddechre ymwneud â'i meddwl hi o flaen ei gwr, ond mai efe a ym- unodd â'r eglwys gyntaf. "Dos di i'r seiat," ebe hi wrth ei gwr, i edrych a ydynt yn hel arian." Wedi cael boddlonrwydd ar y pen hwnnw, hithau hefyd a ymunodd. Eithr gorfu arnynt ymadael â Phenbryn bach, o achos eu cysylltiadau crefyddol, a dyna'r fel y daethant i Frynrodyn. Gosododd Sion Griffith ffenestr yn nhalcen ei dŷ newydd, er cael goleu i'r gwasanaeth crefyddol a fwriadai gael yno, a dododd bulpud hefyd o'i fewn. Rhoddes fwyd