Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/156

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a llety ar ei draul ei hun i'r pregethwr a ddeuai yno ar ei dro am ysbaid 15 mlynedd. Llwyddwyd ymhen amser i gael Brynrodyn yn daith gyda Chlynnog a Llanllyfni.

Parhae yr aelodau eglwysig i fyned i Lanllyfni am faith flynyddoedd. Diau mai ofn cael eu colledu yn ormodol yr oedd y ddeadell fechan yno. Ymhlith y rhai a elai yno oddiyma yr oedd Ifan Sion Tyddyn mawr a'i wraig, Sadrach ac Elinor Griffith Cae cipris, Owain a Jane Parry Groeslon, William ac Elinor Griffith Gegin fawr.

Ymhen 16 mlynedd ar ol i Sion Griffith ddod i Frynrodyn y cafwyd tir i adeiladu capel arno, sef yn y flwyddyn 1789. Y mae gweithred penodi ymddiriedolwyr newydd yn 1829 yn cyfeirio at hen brydles 1789, a wnawd rhwng John Williams Penllwyn, ar y naill law, ac, ar y llaw arall, Thomas Charles Bala, Evan Richard Caernarvon, John Roberts Buarthau, John Griffith Brynrodyn, ac Evan Jones Tyddyn mawr, am "30 perches," neu 14,23 rhwd o dir o fferm Brynrodyn, sef y darn a elwid Cae bryn. Fe eglurir yn y weithred fod pedair coeden onnen yn tyfu ar ochr ddeheuol y cae. Hefyd fod rhyddid i gludo cerryg at adeiladu o Gae'rbeudy. Y brydles am 99 mlynedd o 1789, ar yr amod o godi adeilad da, sylweddol, i'r amcan o weddïo, darllen a deongli'r sgrythyr, pregethu'r Efengyl, a moli'r Hollalluog. Y rhent yn ddeg swllt y flwyddyn, a'r capel i'w godi o fewn tair blynedd. Gwr eglwysig oedd John Williams.

Naw llath wrth wyth oedd maint y capel, â llofft ar un talcen. iddo, ebe Mr. Owen Hughes. Dywed ef yr arferai Meyrick Griffith a'i alw yn gapel y chwe phecaid o galch, am mai hynny o galch aeth i'w wneuthuriad.

Tybir ddarfod i'r capel gael ei godi yn 1789, ac i'r eglwys gael ei sefydlu yma yn ystod yr un flwyddyn. A bernir ddarfod i 15, neu oddeutu hynny, o aelodau dorri eu cysylltiad âg eglwys Llanllyfni i'r perwyl hwnnw. Yr oedd Sion Griffith ac Ifan Sion eisoes yn gweithredu fel blaenoriaid yma o Lanllyfni. Dyma'r pryd y daeth Elinor Griffith, gwraig Sion Griffith, a Sadrach Griffith, gwraig Ifan Sion, Owen a Jane Parry Groeslon, William ac Elinor Griffith Geginfawr. Bellach y mae y ddau flaenor yn ymroi gydag ynni adnewyddol i waith eu swydd yn eu cartref eu hunain. Buont