Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/161

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

peidio. Hi a benderfynodd roi prawf arno. Yr oedd eisieu gwair i geffyl y pregethwr. Yn y ddâs yr oedd dwy fainc ar doriad. Yn y fainc nesaf i ben ucha'r ddâs yr oedd gwair llwyd a drwg; yn y llall, yn nes i ganol y ddâs, yr oedd y gwair yn beraidd a da. "Os oes twyll yn Sion," ebe Elsbeth wrthi ei hun, "fe rydd o'r gwair drwg i geffyl y pregethwr." Heb wybod fod neb yn llygadu arno, rhoes Sion o'r gwair goreu i geffyl y pregethwr, a thorrodd y ddadl ym meddwl Elsbeth o barth i'w grefydd. Cedwid cyfarfodydd holwyddori plant yn ei thŷ hi bob wythnos, a hi ei hunan yn fynych fyddai'r holwyddorydd. Y hi bob amser ddechreuai y canu, a dywedir fod pereidd-dra anarferol yn ei llais. Pan y torrai hi allan yn y gynulleidfa gyda'i, "O diolch," fe gerddai iâs o deimlad drwy'r lle. Mewn amgylchiadau isel a chylch cyfyng fe wnaeth Elsbeth Griffith yn odidog ragorol.

Dywed Cyrus yn ei ysgrif ar Lanllyfni y bu cynnydd o wyth ugain ym Mrynrodyn yn ystod diwygiad 1813, a darfod ei sicrhau am hynny gan wr cyfarwydd.

Yn 1815 y codwyd capel yn y Bwlan ac y ffurfiwyd eglwys yno yn y canlyniad, sef cangen-eglwys gyntaf Brynrodyn. Yr ail gangen o Frynrodyn ydoedd Rhostryfan. Adeiladwyd capel yno yn 1820, a sefydlwyd yr eglwys y flwyddyn ddilynol. Y drydedd gangen ydoedd Carmel, a chychwynwyd yr eglwys yno yn 1826.

Erbyn 1829, John Roberts oedd yr unig ymddiriedolwr yn fyw. Y flwyddyn honno chwanegwyd ato ef, Michael Roberts, John Jones Tremadoc, John Jones Talsarn, John Roberts Pwllheli, John Eames Cae'r cynstabl, David Owen Traian, Richard Williams Penybont, Griffith Roberts Brynrodyn, Meyrick Griffith Dolydd.

Yn 1829 y dechreuwyd adeiladu capel newydd, ac agorwyd ef yn 1830. Bwriadwyd iddo gynnwys 295; ond nid eisteddai hynny ynddo ar y cyntaf. Y draul yn rhywbeth llai na £300. Cludid yr holl ddefnyddiau gan yr amaethwyr. Gweithiwyd ar y muriau gan Meyrick Griffith; gwnawd y gwaith coed gan Griffith Roberts. Yr oedd llofft ar y ddau dalcen. Yn ddiweddarach rhoddwyd llofft i'r cantorion ar gefn y capel, a defnyddiwyd hi ganddynt hwy ar y cyntaf. Yr oedd awrlais ar wyneb y llofft honno, ebe Mr. Owen Hughes, ac yn argraffedig arno, " Rhodd yr Ysgol Sabbothol yn 1838." Ymhen blynyddoedd gwnaed rhyw gyfnewidiad yn llawr y capel, y sêt fawr a'r pulpud, er hwylustod