Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/162

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y cantorion. Derbyniwyd rhoddion drwy lythyr cymun o bryd i bryd tuag at glirio'r ddyled, ac yn eu plith £20 gan Griffith Davies y cyfrifydd, a £30 gan Griffith Jones Foryd. Swm y ddyled yn 1850 oedd £30.

Daeth Griffith Roberts y saer coed i fyw i'r tŷ capel. Yr oedd ef yn swyddog cyn dod yma, ac ar ol dod; ond bu farw ymhen. rhyw gymaint gyda chwe blynedd. Dilynwyd ef yn y tŷ capel am ysbaid gan Griffith Williams, yr hwn a wnawd yn flaenor yma yn 1839. Symudodd i Cesarea yn 1842. Dilynwyd yntau gan Meyrick Griffith. Swyddogion y cyfnod hwn oedd John Eames Rhandir; Richard Williams Penybont, ac Evan Parry Gerlan, Tryfan, a ddewiswyd ill dau yn 1828. Ymadawodd yr olaf i Rostryfan, ond gwrthododd y swydd yno. John Hughes Grafog a Meyrick Griffith a ddewiswyd yn 1838.

Yn 1838 trefnwyd Carmel, Bwlan a Brynrodyn yn daith. Yn Awst, 1857, trefnwyd Brynrodyn i fod yn daith gyda Phenygroes. Yr oedd yr ysgol Sul yn ei llewyrch mwyaf yn y cyfnod hwn. Mae Mr. Owen Hughes yn manylu ar hyn. Rywbryd yn y cyfnod hwn fe benodwyd ysgrifennydd, ac ynglyn âg ef "stiwart." William Roberts Tyddyn mawr oedd y stiwart cyntaf. Nid yr arolygwr ydoedd ef, ond swyddog dano. Yr oedd dylanwad y swydd- ogion yn ymddangos "agos a bod yn anherfynol " i Owen Hughes. ieuanc. Darllennid rheolau'r ysgol ar y diwedd unwaith yn y mis gan yr arolygwr. Manylid peth ar eu hystyr weithiau. Y rheolau hynny yn argraffedig ar y llyfrau elfennol. Ceid hwy yn argraffedig hefyd yn y ffurf o fân lyfrynnau. Un reol oedd yn erbyn i aelod niweidio cloddiau a thorri o'r llwybrau, gan orchymyn cau llidiardau. Aeth un o'r bechgyn ar fore Llun, wrth fyned ar neges, drwy lidiart neilltuol. Troes, wedi myned encyd o ffordd, a gwelodd y llidiart yn agored. Dychwelodd yn ei ol a chauodd hi. Eb efe wrth Owen Hughes, yr hwn oedd gydag ef, "Y mae John Eames wedi darllen y rheol ddoe." Galwai yr ysgrifennydd enwau yr athrawon allan, gan ofyn am rif y dosbarth ac am y llafur. Yr oedd Owen Owen Tyddyn mawr yn frawd i Syr Hugh Owen. Gofalai ef am drefn yn yr ysgol; edrychai ar ol y llyfrau, gan eu nodi yn ol rhif y dosbarthiadau, a gofalu am eu rhoi allan yn y dechre a'u cadw ar y diwedd. Gwasanaeth pwysig, am fod y llyfrau y pryd hwnnw yn ddrud a'r arian yn brin. Hawdd gweled yr un gynneddf yn