Yr arolygwr yn gyffredin fyddai'r holwr ar ddiwedd yr ysgol, a dewisid y pwnc ganddo ef ei hun. Holai Meyrick Griffith unwaith ar Falchder, ac arwyddion balchder. Ar ganol yr holi, "Daniel O'Brien," eb efe, "a welwchi yn dda gau y ffenestr yna. Y mae gen i wenyn yn yr ardd yna, ac y mae arna'i ofn rhag iddyn nhw ddod i mewn a disgyn ar hetiau y merched yna!" Yr oedd gan O'Brien ddosbarth o ferched ieuainc wrth y ffenestr oedd ar yr ardd. Fe ddywedir fod llai o flodau ar yr hetiau y Sul nesaf.
Gweithid yr ysgol gyda threfnusrwydd effeithiol; cyfartelid y dosbarthiadau yn ofalus; cynhelid cyfarfodydd athrawon; yn ddiweddarach penodid holwyr ysgol a materion; adroddid y Deg Gorchymyn, y naill Sul gan yr ysgol yn gyffredinol, y Sul arall gan y dosbarthiadau arnynt eu hunain.
Heblaw William Ifan, y soniwyd am dano o'r blaen, yr oedd John Eames yn perthyn i'r cyfnod hwn fel swyddog. Gwr o sir Fon, a sefydlodd yma drwy briodas â merch Daniel Griffiths Bryn eithin. Byrr fu ei dymor. Gofalus a threfnus. Bu farw yn 1850.
Richard Williams Penybont yn flaenor er 1828. Ysgrifennydd gofalus i'r eglwys, a mwy o ysgolhaig na chyffredin. Un o'r blaenoriaid pwysicaf a fu yn y lle. Bu ef farw yn 1875.
John Hughes Grafog oedd flaenor er 1838. Perchid ef ar gyfrif ei grefyddolder. Braidd yn llym yn y cyfarfodydd eglwysig. Ffyddlon fel casglydd i'r Feibl Gymdeithas drwy'r holl blwyf. Byrr ei ddawn; hir ei amynedd. Dylanwad ar bob dosbarth o fewn ei gylch ef. Yntau hefyd yn un o flaenoriaid pwysicaf y lle. Bu farw yn 1875, ef a Richard Williams yr un flwyddyn. Mab iddo ef ydyw Mr. Owen Hughes.
Meyrick Griffith oedd y blaenor arall perthynol i'r cyfnod dan sylw. Oferwr yn ei ieuenctid. Y pryd hwnnw yn gwasanaethu gydag amaethwyr. Wedi ei ddychwelyd at grefydd, fe ddysgodd ddarllen, ac hefyd grefft saer maen. Daeth yn enwog yn y grefft honno, fel y dywedid am dano na wnelai mo'r adeiladau a godid ganddo ef, na thŷ na chapel, ddim gollwng dwr i mewn. Peth amheuthyn mewn tŷ a chapel. Adeiladau cryfion, diaddurn a godid ganddo. Yr oedd capel y Bontnewydd cyn ei newid yn ddiweddar yn enghraifft o'i lafurwaith ef, ac nid yn fynych y gwelid y fath gadernid diaddurn. Crynhodd ynghyd beth gwybodaeth