gwasanaethgar iddo fel athraw. Dywed Mr. Evan Jones Dolydd ei fod mor gyfarwydd yn naearyddiaeth gwlad Canaan ag yn naearyddiaeth plwyf Llandwrog. Y diwinydd ymhlith y blaenoriaid; ac yr oedd Cyfiawnhad John Elias yn llyfr mawr ganddo. Holwr ysgol gwych, yn hwylio ymlaen yn ddiofal wrth ei ewyllys, ac yn tynnu ysbrydoliaeth oddiwrth amgylchiadau y foment. Yn neilltuol o ddedwydd fel holwr plant. Dirwestwr aiddgar. Cafodd gladdedigaeth anarferol o fawr ar y 29 o Ragfyr 1873. Yr ydoedd wedi tyfu fel cedrwydden yn ei le, a theimlid colled fawr wedi ei ddiwreiddio o'r lle hwnnw.
Yn 1851 y daeth John Jones yma o Ryd—ddu. Daeth i gadw siop i'r Groeslon. Yn 1855 y gwnawd Griffith T. Edwards a John Hughes Cefnen yn flaenoriaid. Bu John Hughes farw yn 1857. Yn 1857 y dechreuodd David Roberts bregethu. Symudodd i'r Penmaenmawr yn 1866.
Yng ngweinidogaeth Thomas Williams Rhyd—ddu y teimlwyd rhywbeth o rym diwygiad 1859 am y tro cyntaf. Yr oedd hynny mewn Cyfarfod Misol a gynhaliwyd yma, pan y pregethodd efe ar y "ffordd i'r bywyd." Yr oedd rhyw ddylanwad gyda'r holl bregethau, a chynaliai y bobl ieuainc gyfarfodydd gweddi rhwng y moddion. Y noswaith olaf y pregethai Thomas Williams, a phan ar ganol ei bregeth y torrodd yr argae. Yr oedd y pregethwr yn disgrifio'r saint yn teithio tuag adref ar feirch ac ar gerbydau ac ar elorfeirch ac ar fulod ac ar anifeiliaid buain, yn ol geiriau'r proffwyd ; ac yn ol yr emynydd Cymreig :
Mae rhai ar feirch yn dyfod yn hardd i Seion fryn,
Ac eraill mewn cerbydau yn harddach na'r rhai hyn;
Mae'n dda i rai fod mulod ac elorfeirch yn bod
I gario'r claf a'r clwyfus ————
Ar hynny, wele wr ieuanc, Richard Hughes Tyddyn bach, yn neidio ar ei draed gan waeddi allan, "O Arglwydd, gâd imi gael dod i'r nefoedd ar gefn mul neu rywbeth—fe fyddai cael dod i'r nefoedd rywsut yn fraint heb ei bath?" Ffrwydrodd teimlad y gynulleidfa, ond tawelwyd hynny gan y pregethwr, wrth fod ganddo ef bellach beth ag yr oedd arno eisieu ei ddweyd. Yr oedd yr Iachawdwriaeth fel trên wedi cychwyn yn nhragwyddoldeb, ac wedi galw yn stesion Bethlehem, a Gethsemane a Chalfaria, a mynèd rhagddi drwy dynel tywyll angeu a'r bedd. Ar hynny fe ddistawodd y pregethwr am ysbeidyn, tra daliai'r gynulleidfa ei hanadl. Ac yna fe dorrodd