i mewn gyda hwy. Nid oedd efe yn deall y Gymraeg eto. Soniai y pregethwr y tro hwnnw lawer iawn am dragwyddoldeb, ac yr oedd y defnydd o'r gair yn creu braw yn y gynulleidfa. Galwai hynny sylw Daniel yn fwy at y gair. Gwyddai o'r goreu mai Gwyddel y gelwid ef ei hun gan y bobl. Ac yntau yn ddieithr, ac yn o ddibrofiad, a chan wybod am ragfarn at ei genedl a'i grefydd, fel ag oedd yn y wlad y pryd hwnnw, fe gredodd yn ei galon, yn wyneb yr olwg ddifrif ar y bobl, mai eu hannog hwy i ladd y Gwyddel a ddaeth i'w plith hwy yr oedd y pregethwr. A phan y torrodd y gynulleidfa yn y man i orfoledd ni feddyliodd yn amgen nad wedi gwneud eu meddwl i fyny i hynny yr oeddynt, gan annos eu gilydd i'r gorchwyl creulon. Gwaeddodd Daniel druan allan, "Mur-r-ther!" a chan waeddi "Mur-r-ther" y cludwyd ef allan yn hanner gwallgof gan ddychryn. Aeth y pregethwr ato; ac wedi deall achos ei fraw, argyhoeddodd ef o'i gamsyniad, a gwahoddodd ef yn garedig i alw gydag ef yng Nghaernarvon. Pan alwodd Daniel gydag ef, rhoes y pregethwr iddo Destament Gwyddelig, ac o hynny allan cymerai'r pregethwr sylw neilltuol ohono. Yn ddiras y treuliodd y Gwyddel yr un mlynedd arbymtheg nesaf. Ei briodas yn 1825 fu'n achlysur ei droedigaeth, gan yr elai bellach. ar brydiau i'r moddion. Dywed ei fab mai ymhen pum mlynedd ar ol priodi, ac felly yn 1830, yr argyhoeddwyd ef, a phriodola hynny i bregeth Ebenezer Morris yn Sasiwn Caernarvon ar "Y gwaed hwn." Eithr y mae yma gamgymeriad, drwy gymeryd yr oedfa honno am un arall ddiweddarach, canys yn y flwyddyn 1818, pan nad oedd Daniel ond 22 oed, y traddodwyd y bregeth honno, tra, yn ol yr amseriadau a roir, yr ydoedd yn 34 oed pan argyhoeddwyd ef. Erbyn 1830 yr oedd ef yn gweithio yn Llanberis, a'r teulu yn byw yn Llandwrog. Bu dair gwaith yn nesu at gapel Brynrodyn heb fedru anturio i mewn, ond o'r diwedd efe a wnaeth hynny. Ymgydnabu â'r Gyffes Ffydd. Daeth yn Galfin selog. Ei hoff linell oedd, "Mae gan Dduw gylch a ddeil o'u hamgylch hwy." Bu'n ddiwyd yn addysgu ei blant yn yr Ysgrythyr. Cadwai'r ddyledswydd deuluaidd yn ddifwlch hwyr a bore. Yn ei gystudd diweddaf, eb efe wrth ei fab, "Yn y colchfa yr ydw i, i tynnu y brechau, i gael gwisgo y gwisgoedd gwynion yn y nefoedd." Bu farw Mawrth 22, 1866, yn 70 oed.
Yn 1866 pwrcaswyd hanner acr o dir ynghyda defnyddiau yr hen gapel am £50 gan berchennog fferm Brynrodyn, sef Mr. Williams Rhiw, Ffestiniog, ac yn 1867 fe agorwyd y capel presennol