Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/168

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn ymyl y fan lle safai'r hen gapel. Yr ymgymeriad ydoedd tua £1600. Ar ol agor y newydd y tynnwyd yr hen gapel i lawr, ac aeth ei ddefnyddiau i wneud tŷ capel. Yr holl draul am y tir, y capel a'r tŷ, wedi eu llwyr orffen, £2424. Yn niwedd 1866 yr oedd yr achos yn ddiddyled; yn niwedd 1868 yr oedd y ddyled yn £1900; yn 1869 yn £20 ychwaneg; yn 1870 yn £1845; yn 1871, £1,745.

Yn 1868 y codwyd John Davies Traian, brawd y Parch. D. Roberts Rhiw, yn bregethwr.

Yn 1869 y daeth Thomas Williams Ty'nrhos yma o Garmel, lle'r oedd yn flaenor. Dewiswyd ef yma. Dewiswyd ef yma. Ymadawodd i Frynrhos yn 1880.

Fe welir byrr-gofiant i Margaret Hobley, gwraig Simon Hobley, yn Nhrysorfa 1873 (t. 431). Bu hi farw Chwefror 25, 1870. Merch y Red Lion Inn Caernarvon ydoedd hi, ac wedi hanu o Angharad James y Gelli Ffrydau. Nodir ynddi sirioldeb gwên, prydferthwch ei thro chwim, synwyr cyffredin a gonestrwydd masnachol.

Agorwyd ysgoldy Graianfryn yn 1872. Yr oedd gryn bellter ffordd o Dan-y-cefn i Frynrodyn, a'r ffordd i unioni yn anhygyrch i blant dros ystod rhan fawr o'r flwyddyn, oblegid y gwlybaniaeth. Esgeuluswyd plant y rhan yma yn hir. Oddeutu 1867 fe ddaeth Simon Hobley i fyw i'r ardal yma o Gaernarvon, a symudodd Meyrick Griffith yma yn adeg tynnu i lawr y tŷ capel, a gedwid ganddo ef. Cydsyniai'r ddau am yr angenrheidrwydd o gael Ysgol Sul i'r lle, a chychwynnwyd hi ymhen ysbaid yng ngweithdy John William Thomas y crydd, a Wesleyad o ran enwad. Erbyn haf 1871 profodd y tŷ yn rhy fychan, fel yr oedd yn rhaid cynnal dosbarth neu ddau oddiallan. Yn yr amgylchiad yma addawai Simon Hobley dir i'r amcan o godi ysgol, ac awgrymai y gwnelai ychwaneg na hynny. Cynygiai Meyrick Griffith weithio yn rhad ar yr adeilad. Dechre adeiladu. Mr. Evan Jones Dolydd a Mr. Robert Evans Cae'r bongam a ddanfonasant ddynion ar ysbeidiau i gynorthwyo gyda'r gwaith, a rhoes rhai ffermwyr help gyda chario, a gwnawd y gweddill gan Simon Hobley. Mawrth 9, cynhaliwyd cyfarfod pregethu yno, pryd y gwasanaeth- wyd gan Thomas Hughes a John Jones Caernarvon a John Jones. Brynrodyn. Clywodd John Jones ar ei galon ganu ar yr agoriad:

Dyled nid oes yn dilyn—heb ail sôn,
Hobley saif bob gofyn ;
Môr o hwyl fydd mwy ar hyn,
Unfryd, yn mro Graianfryn.
—(Goleuad, 1872, Ebrill 20, t. 7.)