Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/172

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

achos. Darllennodd lawer: derbyniodd y Traethodydd o'i gychwyn yn 1845 hyd y flwyddyn olaf y bu efe byw.

Yn y Cyfarfod Misol a gynhaliwyd yma, Tachwedd 1, 1897, cyfeiriai'r Parch. John Jones at yr adeg y talai Mr. Charles ymweliad â'r lle, pryd y lletyai yn yr hen dŷ capel gyda Sion Griffith, pan, yn ol John Jones, y saethai y rhewynt drwy'r haciau yn y mur. Yn ei ol ef, hefyd, yr oedd gogoniant yr Ysgol Sul yn aros yn ddigyfnewid er amser Mr. Charles, a llawr y capel mor llawn fel y gallai cath gerdded dros bennau'r bobl, a phawb yn cydweithio—yn cyd-dynnu fel y meirch yng ngherbydau Solomon. Cyfeiriwyd at wasanaeth gwerthfawr Mr. John Davies Traian. Cyfeiriwyd at y symudiad i gychwyn capel yn Glanrhyd. (Goleuad, Tachwedd 10, 1897, t. 5.)

Yn 1898 y daeth y Parch. David Williams yma. Ymadawodd i Glanrhyd ar sefydliad yr eglwys yno.

Yn 1899 y sefydlwyd eglwys yn Glanrhyd, gan gynnwys rhai aelodau o Frynrodyn, megys o leoedd eraill rai.

Bu'r Parch. John Jones farw Tachwedd 16, 1900, yn 86 mlwydd oed. Un o wŷr y Capel Uchaf ydoedd ef, a dug ryw gymaint o naws y lle yn ei ysbryd ei hun, yn enwedig yn nhymor ei ieuenctid fel pregethwr. Syniad y wlad ydoedd ddarfod iddo golli ysbryd a dawn y weinidogaeth i fesur nid bychan drwy ymroi i fasnach. Yr oedd o ddawn rwydd, gyda chyffyrddiad o ddonioldeb, a chydag angerddolrwydd yn ei deimlad naturiol. Yr oedd yn wr ffraeth mewn ymgom, ac yn barod ar alwad y funyd yn gyhoeddus mewn amgylchiadau cyffredin. Bu'n holwr ysgol am flynyddoedd yn Nosbarth Clynnog. Holwr bywiog, egniol, cyffrous. Rhagorai yn bennaf dim mewn cynhebryngau. Yr oedd ei gyfarchiadau ar yr achlysuron hyn yn deffro cywreinrwydd cyffredinol. Yr oedd ganddo ffordd ddeheuig o nodweddu mewn ychydig ymadroddion y rhai ymadawedig, ond eto bob amser ar yr ochr oreu i'w cymeriad. A phwy bynnag a gleddid, ni welwyd mono erioed na fyddai ganddo ryw rinwedd i'w ddatgan ymherthynas â hwynt. Sylwai David Roberts Rhiw am dano na byddai byth yn dod i'r gwasanaeth bedydd yn y capel ond yn ei ddillad goreu. Ail'i'w ddawn mewn cynhebrwng oedd ei ddawn yn y seiat. Yr oedd ynddo gyfuniad o dynerwch a chyfrwystra. O'r ychydig a ddywedid wrtho weithiau, fe wnelai lawer: deuai