Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/173

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mymryn o brofiad go lwytaidd weithiau, yn yr ail-adroddiad ohono ganddo ef, yn berl go loew. Medrai ymgomio yn hamddenol gyda'r aelodau, gan dynnu allan rai anhueddol i siarad a rhai heb ganddynt nemor i'w ddweyd pe bae tuedd, a medrai wneud sylw byrr, bachog, o'i eiddo'i hun wrth fyned heibio. Edrydd Mr. John Davies sylw felly, sef yr awn i'r bedd fesur un ac un, ond y deuwn i oddiyno gyda'n gilydd. Edmygydd mawr ydoedd o John Elias, a John Jones, o Dewi Wyn, ac Eben Fardd, ac ymrithiai eu delweddau hwy ac eraill yn barhaus o flaen ei feddwl.

Bendithiwyd John Jones â gwraig a fu yn ymgeledd gymwys iddo: yr ydoedd hi yn wraig gall, ddarbodus, letygar, yn ofni'r Arglwydd. Gwerthfawrocach ydoedd hi i'w gwr na'r carbwncl, medd ei gofiannydd ef. Ac am dani y canodd y Parch. E. Davies Trefriw,

A'i gofal swewr i'w gwr rhagorol,
A chordial einioes fu'r chwaer adlonol.

(Cofiant John Jones Brynrodyn, gan John Jones Pwllheli, 1903.)

Yn 1900 y dewiswyd yn flaenoriaid: Henry Hughes, Owen Jones, Rowland J. Thomas a William Hughes.

Yn adroddiad ymwelwyr Canmlwyddiant yr Ysgol Sul, fe ddywedir fod yma sel gyda'r Ysgol, a rhai dosbarthiadau â'u cynnydd yn amlwg.

Go amherffaith a fu Caniadaeth yma am faith flynyddoedd, a barnu wrth safon celfyddyd. Yn fynych ni byddai neb neilltuol yn arwain, ond fel y disgynnai yr ysbryd ar y pryd yr arweinid. Nid yn anfynych y profwyd y gwasanaeth yn effeithiol yn y dull hwnnw. Yn y man, fe gododd rhai yn meddu mwy o fedr gyda'r canu, er nad oedd eu gwybodaeth gerddorol hwythau ond bychan. Un o'r cyfryw oedd Thomas Jones Dolydd. Yr oedd ef yn gydnabyddus â hen alawon y dyddiau hynny, fel mai anfynych y rhoddai neb emyn allan na byddai ganddo ef dôn ar ei chyfer. Llais swynol. Cadwodd ei swydd a'i ragoriaeth i'r diwedd. Bu John Jones o ddirfawr gymorth gyda chaniadaeth ar ei ddyfodiad i'r lle, ac hyd nes y cododd rhai yn meddu cymhwysterau i gymeryd y gofal. Dechreuodd canu corawl gael sylw. Dyma restr cantorion mor bell yn ol ag y gallai Mr. Owen Hughes eu holrhain, i'r hwn hefyd y mae'r sylwadau blaenorol ar ganiadaeth yn ddyledus: Thomas Jones Dolydd, David Owen Traian, Robert Griffiths