Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/176

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac yn adnewyddu pob teimlad yn y lle. Enwir ganddo, hefyd, W. Williams Appifforum, Thomas Jones Dolydd, a Griffith Morris, hen bererinion a groesodd rydiau'r Afon, ac sy'n rhodio heddyw yng Ngwlad y Goleuni, heb eu hebargofi chwaith yn Nyffryn Galar. Tywynnu y maent hwy fel ser, a cherbron Gorseddfainc Duw y safant.

Rhif yr eglwys ar ddiwedd 1900, 274; rhif yr Ysgol, 267. Y casgl at y weinidogaeth, £107 19s. 3c. Swm y ddyled, £60.