Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/177

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

BWLAN.[1]

ENW ar ffermdy, nid nepell oddiwrth bentref Llandwrog, yw Bwlan. Tybir fod yr enw wedi ei gymeryd oddiwrth fryncyn o ffurf y fasged gron a wneid gynt i ddal ŷd, er fod y gair yn enw hefyd ar yr ysgrepan ledr y cludir llythyrau ynddi. Oddiwrth y ffermdy fe rowd yr enw ar y capel a adeiladwyd ar y tir. Ar wahan i'r pentref, y boblogaeth yn o wasgarog. Ceid pregethu yn yr ardal er yn fore yn hanes Methodistiaeth. Y mae sôn am dorf o drigolion ardal Llandwrog, wedi ymgynnull ynghyd ar brynhawngwaith têg, ar gwrr maes i wrando pregethwr poblogaidd gyda'r Methodistiaid. Ynghanol y dorf yr oedd gwraig ieuanc brydweddol â'i maban bychan ar ei braich. Wedi i'r pregethwr ddechre ar ei bwnc, a phan yn codi ei wrandawyr i ias hyfryd o deimlad, dyma garreg, wedi ei hanelu fe ddichon at y pregethwr, yn tarro'r bychan a oedd ar fraich ei fam. Y bychan hwnnw nid oedd neb amgen na'r hwn a adweinid ar ol hynny fel "y pura' gwr, Parry o Gaer." Gan iddo ef gael ei eni ym mis Mai, 1775, y mae amseriad yr oedfa honno yn lled agos i'w benderfynu. (Cofiant J. Parry, t. 10). Byddai ambell bregeth yn y Bodryn ac weithiau yn y Morfa. Mewn oedfa yn y Morfa unwaith, yn ol Methodistiaeth Cymru, fe ddaeth y clochydd i mewn â gwialen fawr yn ei law. Ymwthiai i ganol y gynulleidfa gyda rhuthr, gan wneud am y pregethwr. Ymaflodd rhywun ynddo, pa fodd bynnag, gan roi ar ddeall iddo os eisieu ei ysgwyd oedd arno, y gwnae ef hynny iddo. Ciliodd y gwalch o glochydd yn ol ar hyn, gan ystyried mai goreu dewrder ydoedd cadw'n groeniach. Eithr wedi methu ganddo yn ei amcan gyda'r gwŷr, fel gwir lechgi fe gyfeiriodd tua'r buarth, a throes geffylau y gwrandawyr o bell allan ar eu hynt.

Yr oedd Henry Griffith Bodryn a'i wraig yn aelodau er yn fore ym Mrynrodyn. Pryd na ellid cael pregeth, neu pryd na thybid yn ddoeth ei chael, fe gynelid cyfarfod gweddi yn y tŷ. Yr oedd amryw o aelodau Brynrodyn yn trigiannu yn y fro. Fe ddywedir mai'r Henry Griffith hwn oedd y cyntaf gyda'r Methodistiaid i ddwyn pregethu i'r ardal, ac y dug bregethwyr rai gweithiau i ardal y Dinas dinlle i bregethu. (Canmlwyddiant Ysgolion Clynnog ac Uwchgwyrfai, t. 20. Cymharwyd y llawysgrif y tynnwyd y

  1. Ysgrif o'r lle. Nodiadau gan Mr. John Jones Tŷ mawr, a'r Parchn. J. J. Evans ac Edward Owen Gilfachgoch, Morganwg. Ymddiddanion âg amryw.