Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/178

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhan fwyaf o'r llyfryn hwn ohoni, sef yr eiddo Mr. Griffith Lewis Penygroes).

Arferai David Davies (Tremlyn) ag adrodd am oedfa wrth y tair croesffordd yn ymyl Dunogfelen ar fore Sul, pan oedd John Roberts Llanllyfni (Llangwm wedi hynny) yn pregethu. Yr oedd hynny, debygir, cyn 1809, gan mai yn y flwyddyn honno y symudodd efe i Langwm. Safai y pregethwr mewn trol wrth y tair croesffordd. Yr oedd y nos Sadwrn blaenorol yn noswaith lawen yn un o dai allan Garnons Mt. Hazel, sef hafoty y gwr ag yr oedd ei hendref yng Nghaernarvon, ag y mae ei enw yn hysbys fel arall ynglyn âg erledigaeth. Ymhlith campau eraill y noswaith lawen, yr oedd ymdrech am y goreu i ddwyn agwedd wirionffol gyda choler ceffyl am y gwddf. Gan i'r gamp honno fod yn llwyddiannus i ennyn mwy o ddigrifwch nag arfer fe benderfynwyd ar fod i'r ymdrechwyr ymddangos ar y gyfryw agwedd yn yr oedfa dranoeth ger Dunogfelen. Ar y ffordd i'r oedfa yr oedd y pregethwr mewn myfyr dwys, a ffrwyth ei fyfyrdod y bore hwnnw oedd y pennill adnabyddus, "Gwych sain Fydd eto am y goron ddrain." Pan y cododd efe i fyny yn y drol yr oedd campwyr y noswaith lawen yno gyda'r goler ceffyl am y gwddf, ac yn gwneyd ystumiau arnynt eu hunain. Rhoes yntau allan i'w ganu y pennill a enynnodd yn dân yn ei feddwl tra yr ydoedd yn myfyrio ar y ffordd. Cipiodd y crefyddwyr yno y fflam, ac yr oedd canu anarferol ar y pennill y tro cyntaf hwnnw y rhowd ef allan, a dylanwad y fath fel y tynnodd yr oferwyr y coleri oddiam eu gyddfau mewn cywilydd, gan eu dodi yn dawel o'r neilltu. Yr oedd dylanwad yr oedfa y fath, fel na chlybuwyd ond hynny am na noswaith lawen nac ymladd ceiliogod, pethau ag oedd mewn bri o'r blaen ymhlith rhyw ddosbarth o'r ardalwyr.

Oddeutu 1807, yn ol y Canmlwyddiant, y sefydlwyd yr ysgol Sul, mewn tŷ annedd o'r enw Fronoleu, ac yna yn yr elusendy yn y gymdogaeth. Y gwr a gymerodd y rhan fwyaf blaenllaw gyda sefydlu'r ysgol ydoedd Henry Griffith. Yr oedd person y plwyf, o'r enw Griffith, a drigiannai yng Nghae'r Doctor, yn gynorthwyol. gyda sefydlu'r ysgol, er ei glod. Ystyrrid ef yn wr rhyddfrydig a duwiol. Ei gefnogaeth ef yn ddiau a rydd gyfrif am gadw'r ysgol. ar un ysbaid yn elusendy Glynllifon. Gwŷr eraill a fu'n gynorthwyol gyda sefydlu'r ysgol, neu ei dwyn ymlaen mewn blynyddoedd diweddarach, ydoedd Robert Hughes Caelywarch, Solomon Parry Collfryn, Robert Roberts a Hugh Jones a Robert Jones