Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/18

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"1854. Chwefror 15. Cynhaliwyd Cyfarfod Addysg pedair ysgol Clynnog yn y Capel Uchaf. Darllen ac ysgrifennu."

"Cynhaliwyd amryw gyfarfodydd bychain, perthynol i'r ysgolion eu hunain, yn y gwahanol gapelau, yn ysbaid y cyfryngau o amser rhwng y prif gyfarfodydd uchod, a'r argraff ar feddyliau y rhai mwyaf doeth, rhinweddol a deallus, yw, eu bod wedi gwneud llawer o les, a bwriedir cynnal un cyffredinol a blynyddol i'r pedair ysgol ar ddydd Llun y Sulgwyn nesaf."

"Dydd Llun y Sulgwyn. Cynhaliwyd cyfarfod blynyddol. cyffredinol y pedair ysgol yng nghapel y pentref, a phrofwyd dyddordeb mawr ynddo gan bawb. Yr oedd y cynulliad yn lliosog, y cyflawniadau ymarferol ar wahanol ganghennau o addysg yn obeithiol, a sail dda i ddisgwyl lles mawr oddiwrth y sefydliad cynorthwyol hwn i'r ysgol Sabothol."

"1855. Dydd Llun y Sulgwyn. Cynhaliwyd y cyfarfod addysg blynyddol yng nghapel y pentref. Ystyrrid y tro hwn fod ei boblogrwydd a'i ddefnyddioldeb, yn gystal a'r hyfrydwch a deimlid ynddo, yn cynyddu. Yr oedd yr ymarferiadau addysgol yn bur amrywiol, mewn traethodau, barddoniaeth gaeth a rhydd, datganu, cerddoriaeth grefyddol, gramadeg, llythyreg, etc., ynghyda darlleniaeth. Taflwyd fi a'm teulu i ddyfnder galar bore y dydd hwn, drwy farwolaeth fy anwyl, anwyl ferch Catherine, ar y dydd arbennig a osodai yn nôd drwy ei holl salwch maith a phoenus. i gael mendio erbyn y delai, a chael bod yn bresennol yn y cyfarfod. Ond yr wyf yn cryf obeithio, ar seiliau cyfreithlon, debygaf, iddi hi fyned y diwrnod hwn i Gyfarfod perffeithiach a myrdd mwy gwynfydedig, i gymanfa a chynulleidfa y rhai cyntafanedig, ac ysbrydoedd y cyfiawn y rhai a berffeithiwyd. Wrth reswm, ym- ddifadwyd fi a'm teulu oddiwrth fod yn bresennol yn y cyfarfod y flwyddyn hon."

"1856. Mai 12, dydd Llun y Sulgwyn. Cynhaliwyd y pumed cyfarfod addysg blynyddol. Yn bresennol gydag eraill, y Parchn. Wm. Roberts, Robt. Hughes, John Jones, hefyd yn yr hwyr Dr. Pughe. Ymddanghosai yn weddol lewyrchus fel arferol, ac yn bur boblogaidd. Yr enillwyr mewn ysgrifennu traethodau, etc., oeddynt Harry Griffith, Robert Parry, Emanuel Evans, Hugh