Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/19

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Jones Bron'rerw a James Ebenezer Thomas; caniadau, James Williams Penrhiwiau, Robert Parry a Henry Griffith. Ymddanghosai tuedd ac ansawdd rhai o'r anerchiadau cyhoeddus yn oeraidd tuag at y cyfarfod, yn hynod o ddigalonnol, ac fel yn tarddu oddiar angharedigrwydd hunanol, a rhagolygiadau disail hyn ynghydag awgrymiadau drwgdybus y Sasiwn, ymddygiadau gochelgar a phell a gweithrediadau gwrthwynebus y pregethwyr a'r blaenoriaid; popeth gyda'u gilydd a dueddant i oeri fy sel i gydag ef, ac i beri i mi ymgadw o hyn allan rhag bod yn achlysur o dramgwydd i'r rhai sy'n hawlio iddynt eu hunain arweiniad y bobl. Boed rhyngddynt hwy a'u pobl am y mater: gwell gennyf fi neilltuedd."

"1857. Dydd Llun Sulgwyn. Ychydig a feddyliwyd o'r cyfarfod hwn cyn ei ddyfod. Yr oedd effeithiau digalonnol y llall yn aros yn yr ardal: ni wnaed dim casgliad o bwys ar ei gyfer ; goddefwyd ei ddyfodiad fel peth arferol; ond pan ddaeth ymddanghosodd mor rymus ag erioed, yn hynod o lewyrchus a bywiog, a diweddodd yn dra boddhaol i bawb. Ni ddylid peidio â chofrestru araeth ragorol Mr. O. Owens y Gors ar yr achlysur, a gweithrediadau swynol ac adeiladol W. Owen Prysgol, ynghyda'r cefnogaeth gwresog a ddanghoswyd iddo gan brif bennau teuluoedd. yr ardal. Yr enillwyr mewn ysgrifennu oeddynt Henry Griffith ac Evan Thomas yn bennaf."

"1858. Dydd Llun y Sulgwyn. Pasiodd y cyfarfod blynyddol hwn yn hynod o ganmoladwy. Yr oedd Messrs. W. Owen Prysgol a Richard Jones, Butcher, ynghyda dau o fechgyn ieuainc yn canu ynddo, ac yn rhoi boddhad mawr. Dygwyd popeth ymlaen yn effeithiol, buddiol ac adeiladol, a chydnabyddid yn gyffredinol mai cyfarfod da iawn ydoedd."

"1859. Dydd Llun Sulgwyn. Y diweddaf yw y goreu o hyd, a'r teimlad ar ddiwedd hwn oedd ei fod yn rhagori ar y rhai a fu o'i flaen i gyd. Yr oedd amryw ddieithriaid-Mr. W. Jones Clwtybont, Mr. O. Hughes Ysgoldy ac eraill-yn annerch y cyfarfod. Messrs. Richd. Roberts (Bardd Treflys), R. Roberts Hendre cenin a Humphrey Lloyd Penybryn, Llanystumdwy, yn feirniaid darllen; Messrs. Griffith Tŷ mawr a Mr. Hugh Davies Monachdy yn feirniaid