Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/20

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y traethawd amaethyddol. Yr oedd anerchiadau Messrs. O. Owens Gors a Bardd Treflys yn effeithiol a derbyniol iawn. Mr. Owen Ellis oedd arweinydd y côr, a chanmolid ef yn fawr. Y prif enillwyr oedd Harry Griffith, Messrs. Wm. Jones Bryngwydion ac Evan Thomas, ynghydag amryw eraill, Miss Williams Hafod-y-wern ar destyn y merched. Yr oedd y dyrfa yn lliosog ac yn barchus iawn, ac yn ymddangos yn dra boddhaol gyda gweithrediadau y cyfarfod. Cynygiodd Capt. Owen ddiolchgarwch y cyfarfod i'r ymwelwyr dieithr a'r gweinyddwyr yng ngwasanaeth y cyfarfod, yr hyn a eiliwyd gan Mr. James Williams Penrhiwiau, a siaradodd y ddau yn gymwys ac effeithiol wrth gynnyg ac eilio. Arwyddwyd y diolchgarwch gyda chodiad llaw cyffredinol a pharod. Diweddwyd drwy weddi gan Mr. John Jones Creigiau—pregethwr, a dylaswn nodi i'r cyfarfod gael ei ddechre gan Mr. Owen Roberts, gweinidog y Bedyddwyr, Pontllyfni."

"1860. Casglwyd un bunt at gyfarfod y Sulgwyn y flwyddyn hon, yr hwn a fu ac a ddarfu yn ei amser priodol, gyda graddau dymunol o gefnogaeth a phoblogrwydd. Danghoswyd gryn dipyn o lafur a ffyddlondeb gydag addysg mewn darllen a chyfansoddi. Ymddengys i'r cyfarfod gael ei dreulio yn foddhaol ac adeiladol iawn ar y cyfan, er y dichon nad oedd mor fywiog a llewyrchus a rhai o'r cyfarfodydd a gynhaliwyd yma o'r blaen. Yr oedd y deffroad mawr a anfonodd yr Arglwydd yn ei ras ar yr ardaloedd y flwyddyn hon a'r flwyddyn flaenorol wedi hoelio sylw pawb bron ar eu mater rhyngddynt a Duw, nes gadael o'r neilltu eu mater rhyngddynt a'u gilydd; ond wedi i syndod y deffroad leihau dipyn, y mae yn natur y cyfnewidiad grasol a effeithiodd ddwyn pawb a'i profodd fesur ychydig ac ychydig i ystyried pa fodd i rodio a boddloni Duw, a phan ystyriant hynny yn ddyledus, gwelant a chredant nad oes modd rhodio a boddloni Duw heb hyfforddio plentyn ym mhen ei ffordd, heb faethu eu plant yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd, heb wneuthur daioni a chyfranu, heb wneuthur eu hunain yn bob peth i bawb, heb geisio llesad llaweroedd yn gystal â'u llesad eu hunain, heb chwanegu at ffydd wybodaeth, yn gystal a rhinweddau duwiol eraill. Cofnodwn yn ddiolchgar y personau a'n cynorthwyasant eleni, sef y Parch. Robt. Hughes, Meistri O. Owens, Richd. Roberts (Bardd Treflys), Griff. Lewis a H. Evans ac eraill, ynghyda haelionus gefnogaeth ein hysgol Sul a'r ysgolion Sul eraill, a'r gymdogaeth yn gyffredinol."