Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/182

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd Robert Williams Tŷ bach mewn cyfarfod gweddi yn Bethel, Penygroes, pan y dechreuid teimlo oddiwrth y diwygiad yn y wlad hon. Yr oedd yno le hynod. Yn y seiat yn y Bwlan dranoeth, fe roes hanes yr hyn a welodd. Wrth fyned ar ei liniau i weddio ar y diwedd, methu ganddo ag yngan gair. Cludwyd ef allan yn ddiymadferth, ond nid heb fod y cynulliad wedi teimlo oddiwrth bresenoldeb yr un a'r unrhyw ysbryd a'i llethai ef. Ar nos Sul, Medi 25, torrodd yn orfoledd yng nghyfarfod gweddi y bobl ieuainc. Gorweddai rhai llanciau fel celaneddau dan y dylanwad. Y nos Sul nesaf yr oedd lliaws yn gwaeddi dan y bregeth, ac arosodd deg ar ol. Y nos Sul nesaf wedi hynny, yr oedd Thomas Williams Rhyd-ddu yma. Aeth llawer allan dan wylo, ond yn danfon cais yn ol am weddi yn eu rhan. Cynhaliwyd tair seiat y noswaith. honno, wrth fod y rhai a aeth allan yn parhau i ddychwelyd yn ol. Rhifai'r dychweledigion ddeugain namyn un. Wrth fyned allan o'r capel, clywodd un henwr y gair hwnnw megys yn cael ei ddweyd wrtho, "Y rhai oeddynt barod a aethant i mewn, a chauwyd y drws." Trodd yn ei ol, ac eb efe, "Os byth yr egyr y drws yna, mi af fi i mewn." Yn y man cafodd ei hun i mewn. Ar ben yr allt ar ei ffordd adref, clybu Morris Jones lais yn dweyd wrtho, "Os nad ei di'n ol yn awr, ni chei di ddim cynnyg byth mwy." Dychwelodd yntau yn ol gan ofn. Richard Jones Ty'nrallt yn syrthio yn ŵysg ei gefn wrth geisio myned allan heb aros i'r seiat. Wrth godi ar ei draed, adroddai'r geiriau, "Y mae gennyf agoriadau uffern a marwolaeth." Yr oedd o 15 i 18 yn dod i'r eglwys o newydd braidd bob hwyr yr wythnos ryfedd honno, fel yr ychwanegwyd fwy at yr eglwys yn ystod y diwygiad nag oedd yno o aelodau cyn hynny. Yn wir, fe ddaeth yr ardal yn lled lwyr i broffesu crefydd yr ysbaid hwnnw. Ymherthynas â Thomas Williams a'r diwygiad, fe ddywed Betsan Owen y byddai ef "yn gorfoleddu gyda phob awel." Edrydd hi am dano ar un tro yn dod ar draws y pennill, "Pe meddwn aur Peru." Dywedai: "Pe meddwn aur Peru, mi fedrwn waeddi Gogoniant am ddoniau tymorol. Mi fedrwn waeddi Gogoniant am aur Peru, am berlau'r India, am arian Califfornia, am lo y Deheudir. Ond y mae gronyn bach o ras fy Nuw yn drysor canmil gwell-Gogoniant!" Cof gan Betsan Owen am y cyhoeddwr yn dywedyd wrtho, "Ewchi i'r gongl acw i grefu gan y bechgyn acw dewi tra byddafi yn cyhoeddi." "Fedra'i ddim," ebe Thomas Williams, mae un yn dyrchafu'r Gwaredwr, a'r llall yn rhedeg ar y diafol. Fedra'i ddim !" Bu Thomas Williams yn