Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/183

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwaeddi efo'r bechgyn dan dri ar y gloch y bore. Cafodd John Thomas, gweinidog yr Anibynwyr, oedfa hynod yn y Bwlan yn amser y diwygiad. Caffai afael anarferol gyda'r ymadrodd, "A'r bywyd hwn sydd yn ei Fab ef." John Owen Ty'n llwyn, hefyd, a gafodd oedfa hynod arall. "Y galar mawr yn Jerusalem, pob teulu wrtho'i hun," oedd y mater. Aeth yno ias o gryndod dros ddynion anuwiol. Torrodd allan hefyd yn waeddi cyffredinol. Tachwedd 10, am ddau yn y prynhawn, y pregethodd Dafydd Morgan. Aeth un o lanciau'r Bwlan i wasanaeth yn Rhosmeilan ym mis Mai, 1860. Nid oeddid yno wedi profi dim o ddylanwad y diwygiad. Yr oedd yno ymrafael ers misoedd rhwng y blaenoriaid â'u gilydd. Y noson yr aeth y llanc i'r seiat fe gyrhaeddodd y gynnen i'w huchaf-fan. Ni allai'r llanc oddef yn hwy, a chododd i fyny, gan weiddi allan, "O flaenoriaid melltigedig!" Syrthiodd gradd o ofn arnynt. Halltwyd hwy â halen. A chyn pen nemor ddyddiau, yr oedd y diwygiad i'w deimlo yno hefyd. Yr oedd sôn drwy'r ardaloedd am rym y diwygiad yn y Bwlan. Yr oedd y dychweledigion yn cyfrannu at yr achos, fel y derbyniwyd dros £15 ganddynt cyn eu derbyn yn gyflawn aelodau. Cof gan Mr. John Jones am y blaenoriaid yn dweyd yn yr adeg honno wrth y chwiorydd ieuainc mewn gwasanaeth am roi llai yn y casgl mis. Cyn y diwygiad, ebe'r un gwr, nid oedd gofal neilltuol gan rieni yn proffesu am ddwyn eu plant i fyny yn yr eglwys. Llwyr newidiwyd hynny ar ol y diwygiad. Efe a ddywed hefyd ddarfod iddo glywed John Thomas y Bwlan, ar heol y capel, yn cwyno wrth eraill o blant y diwygiad, "Wel, ymadael â'n cariad cyntaf yr ydym!" Ac ebe Robert Williams Tŷ bach yn y seiat, wrth adrodd ei brofiad, "Ni feddyliais i erioed yr aethai hi gyn llwyted arna'i." Er hynny, gwyr sanctaidd ym marn pawb oedd y rhai hyn. A phlant y diwygiad oeddynt, wedi ymaelodi yn yr eglwys ychydig cyn y diwygiad, ond gyda'r rhai amlycaf ynglyn âg ef.

Rhif yr aelodau yn niwedd 1858, 139; yn niwedd 1860, 282; yn niwedd 1862, 274; yn niwedd 1866, 219. Y casgl at y weinidogaeth yn niwedd 1858, £23 12s. 7g.; yn niwedd 1860, £45 14s. At ei gilydd yr oedd y dosbarth a ychwanegwyd at yr eglwys yn israddol iawn o ran eu hamgylchiadau allanol i'r dosbarth oedd o'r blaen yn yr eglwys. Eto fe ymddengys oddiwrth y cofnod hwn, fod cyfraniadau y naill yn gyfartal i eiddo'r llall. Hawdd y gallasai'r hen flaenoriaid alw am i'r merched ieuainc mewn gwasanaeth arafu yn eu rhoddion!