Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog.djvu/184

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Blaenoriaid y cyfnod hwn oedd William Pritchard, Dafydd Thomas, Griffith Lewis, Robert Jones Bodfan, William Owen, John Owen. Bu W. P. Williams Caernarvon yn trigiannu yn yr Hazel am ysbaid ac yn flaenor yma. Bu William Morris, a berthynai i'r hen dô, farw yn 1865. Heb fod yn dda arno, yr oedd yn garedig wrth y tlawd. Yr oedd iddo ef air da gan bawb, a chan y gwir- ionedd ei hun. Fe ddywedir y meddyliai y bechgyn digrefydd yn ei wasanaeth yn uchel ohono. O dymer wyllt, ebe Betsan Owen. Ar ol gwylltio fe'i clywid ef yn dweyd, "'Does dim imi wneud ar ol yr amryfusedd hwn ond myned at yr Arglwydd." "Dos i'th ystafell," eb efe dan fyned. William Pritchard Penyboncan, Henrhyd gynt, a fu farw yn 1878, yn 78 oed (82 yn ol adroddiad yn y Goleuad), wedi gwasanaethu ei swydd am 38 mlynedd. Yr oedd ef yn daid i'r Parch. W. T. Jones Llanbedrog, ac yn dad i Mr. Methusalem Pritchard. Gwr o beth gallu, gwybodaeth a dawn, ac un a wnaeth lawer o gymwynasau bychain, distaw i'r achos. "Os byddai rhyw achos disgyblaeth cas, William Pritchard roid ar ei gefn o," ebe Betsan Owen, sef er mwyn ei drin yn eofn a deheuig. Dafydd Thomas a fu farw yn 1879, yn 88 oed, wedi gwasanaethu ei swydd am 39 mlynedd. Gwr syml ei nodweddiad a'i rodiad. "Cecian wrth siarad," ebe Betsan Owen. Mynych yr adroddai ddywediad Salmon Parry, yr hen flaenor, ebe hi, sef am "beidio rhoi bwyd i bechod, ac y byddai'n rhwym o lwgu." Evan Owen Llieiniau, Rhos, oedd flaenor yma hyd 1859. Gwr gwybodus. Y Capten Henry Williams yr Hazel a ddaeth yma o Gaernarvon tuag 1858, ac a fu'n flaenor ffyddlon yma am oddeutu wyth mlynedd. Tuag 1857-8 y daeth Griffith Lewis yma. Yn flaenor yn y Four Crosses cyn hynny. Bu'n cadw cyfarfodydd i'r plant am beth amser ar ol y diwygiad. Griffith Lewis a William Pritchard, ill dau, a ddywedent yn hallt yn erbyn rhodianna ar y Sul, a myned i weled y races cychod yng Nghaernarvon. Yr oedd Griffith Lewis yn ddarllenwr cywrain. Cymerai fawr drafferth gyda'r atalnod, yr ynganiad, y pwyslais. Ambell waith, fe dreuliai amser yr ysgol ar ei hyd, ebe Mr. Edward Owen, er mwyn cael darlleniad o un adnod yn gywir. Yn wr dawnus. "Crefyddol gartref," ebe Betsan Owen. Bu farw yn 1888, wedi ei analluogi gan afiechyd ers blynyddau. Yn 1886, yn 72 oed, y bu farw Robert Jones Bodfan, yn flaenor er 1853. Amaethwr mwyaf y gymdogaeth, a'r blaenor mwyaf ei ddylanwad yn yr eglwys. "Byddai ar ei lawn hwyliau ar y cefnfor yn wastad," ebe Betsan Owen. Heb neill-