tuolrwydd dawn a chymeriad John Owen, efe oedd y grymusaf yn ei ddylanwad cyffredinol. Arferai ddweyd nad oedd dim neilltuol iawn wedi ei gymell ef at grefydd yn y cychwyn. Cymed- rolai ef beth ar halltni ceryddon Griffith Lewis a William Pritchard.
Oddeutu 1868 y dechreuodd Edward Owen bregethu. Yn y Deheudir y derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol. Tuag 1870-1 y dewiswyd William Owen Caehalen mawr yn flaenor. Daeth yma ychydig yn gynt o'r Porthmadoc. Bu'n ffyddlon hyd ei farw yn 1890. Yn 1874 y dewiswyd Morris Jones Bwlan a William Jones Tŷ mawr. Bu W. Jones farw yn 1898, wedi dangos llawer o ffyddlondeb. Efe a ddiogelodd yn ei gof gryn lawer o'r hanes a gadwyd am eglwys Bwlan. Dewiswyd Methusalem Pritchard yn 1886, ac Isaac Jones Bryn glas yn 1890. Bu Isaac Jones farw yn 1894.
Tebyg mai yn 1868 y daeth Thomas Williams, Rhyd-ddu gynt, i drigiannu i'r ardal hon o Benygroes, lle bu yn preswylio yn ystod 1867—8. Erbyn hyn yn hynafgwr. Yn wr dymunol, dysyml, diniwed, diargyhoedd. Nid nerth meddwl oedd ei briodoledd, ond bywiogrwydd. Hopian yn ysgafn wnelai, megys aderyn, o frigyn i frigyn. Efe o bawb o bregethwyr y dosbarth hwn oedd yr amlycaf ynglyn â diwygiad 1859, yn arbennig ynglyn â'i gychwyniad. Gydag ef, yn wir, y teimlwyd yr awel gyntaf mewn amryw leoedd yn y sir. Awel fwyn Islwyn, rhy dyner i gyffroi y llwyn a orffwys yn yr hwyr gysgodau, a'i holl freuddwydion am y blodau,— enaid Thomas Williams oedd agored i'r awel fwyn honno, ac a gyffroid ganddi, megys ag y cyffroasid honno gan adsain rhyw nefolaidd gerdd neu fwynaf anadl angel. Cipid ef gan yr awel leiaf a chwyrliid ef ganddi fel deilen ar bren bywyd. Gwelir ei nodwedd yn amlwg yn yr amrywiol gyfeiriadau ato yn ystod hanes yr eglwysi. Medrai ddioddef sen yn ddistaw. Ar ryw achlysur, pan oedd Dafydd Morris yn y Bwlan yn ystod trigias Thomas Williams yma, ar waith Thomas Williams yn torri allan gyda'i "Ogoniant arferol, ebe Dafydd Morris, "Taw, Thomas, nid oes eisieu gwaeddi Gogoniant o hyd !" Ni ddigiai Thomas Williams ddim. Eithr er ei dynerwch a'i addfwynder, medrai fod yn hallt ar dro pan fyddai eisieu. Gofynnai i wraig ar y ffordd unwaith, ag yr achwynwyd wrtho am dani, "Sut flas wyti'n gael efo chrefydd? A oes dim yn bosib dy godi o'r llaid budr yna ?" Ac y mae lle i feddwl ddarfod i'r saeth lynu. Gwelwyd rhai o wŷr y gorfoledd yn fud ar wely