angeu; ond gorfoleddus oedd Thomas Williams yno hefyd. Yn y flwyddyn 1871, efe a aeth i'r "Gogoniant " y gwaeddodd allan yn yr olwg arno o bell gynifer o weithiau.
Yn 1875 y derbyniwyd John Jones yn aelod o'r Cyfarfod Misol fel pregethwr.
Yn niwedd 1878 treuliwyd £45 ar lanhau a phaentio'r capel. Yn 1883 adeiladwyd ysgoldy ac ystabl ar draul o £178.
Hydref 9, 1896, y bu farw Dafydd Morris, yn 73 oed, wedi trigiannu yma yn ystod y 10 mlynedd olaf o'i oes. Daeth yma o Gaeathraw. Dilynai ei alwedigaeth fel amaethwr yma, ond caffai hamdden i wneud llawer o wasanaeth i'r eglwys; ac yn absenoldeb bugail rheolaidd yr oedd y gwasanaeth hwnnw o werth mawr. Llawer o droadau oedd i'w lwybr, ond ni fu heb arweiniad y Golofn. Yn flaenor yn y Carneddi yn 24 oed, fe ddechreuodd bregethu yn 28 oed. Treiglodd o le i le: trigiannodd yn Dublin (am chwe mis), Caernarvon, Trefriw, Bontnewydd, Caeathraw, ac yn olaf yn y Bwlan. Bu'n berchen ffoundri yng Nghaernarvon, ond amaethwr ydoedd yn y lleoedd eraill, ac wrth reddf. Nid oedd yn ymlyngar wrth le, ac feallai ei fod yn lled anibynnol ar bersonau. Yr oedd yr un pryd yn gartrefol a siriol. Bu Betsan Owen gydag ef mewn gwasanaeth. Canai Betsan i'r maban, "Gog, gog, meddai'r gog." "Be wyti'n ddeud wrth y plentyn, dywed?" "Bwytewch chi'ch browes,— dyna fo'n barod ichi ar y pentan," ebe Betsan. Yntau yn galw ar Mrs. Morris, "Rhaid i chi edrych ar ol yr eneth yma: y mae hi'n canu, 'Gog, gog, meddai'r gôg' i'r plentyn." Ebe Mrs. Morris, "Wel, y mae yntau'n darllen y papyr newydd yn lle darllen ei Feibl, onid ydi o? Mi fasai ganddo well lle i achwyn pe'n darllen ei Feibl." A diangodd Betsan y tro hwnnw. Dro arall, gofynnai Dafydd Morris i Betsan, "Ymhle y sonir am gapel yn y Beibl?" Yn yr un bennod yn Amos," ebe Betsan, ag y sonir am adladd wedi lladd gwair y brenin." "Dyna fi wedi fy maglu," ebe yntau. "Ai dyna y tro cyntaf i chwi gael eich baglu?" gofynnai hithau. "Nage," ebe yntau, "fe'm maglwyd lawer tro, druan ohonof." Yr oedd yn naturiol yn hoff o ymwneud â'r byd Yr oedd ei feddwl ef yn gyfryw, megys yr eiddo John Owen Ty'nllwyn, fel y gallai ymroi i negeseuau bydol, a myfyrio yn y gair hefyd, a'r naill a'r llall yr un pryd. Yr oedd efe yn llai dwys na John Owen, er yn fwy egniol fel siaradwr. Eithr yr oedd ei fryd yn fwyaf yn yr